Monitro Amrywiaeth Tystiolaeth

Monitro Amrywiaeth Tystiolaeth

Mae amrywiaeth a chynhwysiant wrth wraidd democratiaeth gynrychioliadol. Mae'n ddyletswydd ar seneddau i wneud penderfyniadau wedi'u llywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth y bobl a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae’r broses o graffu, cynrychioli, a gwneud penderfyniadau yn gryfach ac yn fwy effeithiol os cânt eu gwreiddio mewn amrywiaeth o wahanol safbwyntiau a phrofiadau byw.

 

Beth ydym ni'n ei olygu wrth amrywiaeth?

 

Daw amrywiaeth ar sawl ffurf. Rydym am sicrhau bod y dystiolaeth a ddefnyddir gan bwyllgorau'r Senedd yn dod o ystod amrywiol a chynhwysol o bobl, cymunedau, sectorau, grwpiau a sefydliadau - yn enwedig y rhai yr effeithir arnynt gan fater sy’n cael ei ystyried.

 

Monitro amrywiaeth

 

Diweddariad: Ar 3 Gorffennaf 2023, ystyriodd Fforwm y Cadeiryddion ganlyniadau’r ail gynllun peilot, a chytunodd i gyflwyno’r gwaith casglu data hwn fel mater o drefn o fis Medi 2023.

 

Cyn penderfynu symud i fonitro parhaus, ystyriodd Fforwm y Cadeiryddion ganlyniadau'r ail beilot (a gynhelir o fis Hydref 2022 i fis Mai 2023) a bydd adroddiad ar y data hwn wedi cael ei gyhoeddi.

 

O fis Tachwedd 2021 tan fis Ebrill 2022, cynhaliodd pwyllgorau'r Senedd brosiect peilot cyntaf i fonitro amrywiaeth tystiolaeth pwyllgorau. Gellir gweld crynodeb o'r peilot cyntaf yn yr Erthygl Ymchwil hon.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/12/2023

Dogfennau