Craffu ar Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru
Craffu ar Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Llywodraeth Cymru
Roedd Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru
yn gronfa ecwiti bwrpasol a gynhaliwyd rhwng 2012 a 2023 gyda gwerth
buddsoddiad targed cychwynnol hyd at £100 miliwn. Cyhoeddwyd bod y Gronfa’n cau
mewn datganiad ysgrifenedig ar 12 Gorffennaf 2023 gan Weinidog yr Economi, gyda
£21.1 miliwn yn cael ei ddileu gan Fanc Datblygu Cymru. Cytunodd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i archwilio cau’r gronfa gyda
Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn
dystiolaeth gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru ar 27 Medi
2023, ac wedi hynny ysgrifennodd
at swyddogion i ofyn am rhagor o wybodaeth yn dilyn y sesiwn. Cafodd y Pwyllgor
ymateb
ar 15 Ionawr 2024.
Ysgrifennodd
y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru ar 3 Rhagfyr 2024 yn gofyn am y wybodaeth
ddiweddaraf am ddatblygiadau yng Nghronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru.
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i lythyr y Pwyllgor ar 31 Mawrth 2025; trafododd y
Pwyllgor y llythyr yn ei gyfarfod
ar 1 Mai 2025.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2023
Dogfennau