Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru

Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a gyhoeddwyd ar 25 Chwefror 2016.

 

Mae’r adroddiad yn edrych ar sefydlu, rheoli ac arolygu’r Gronfa, a’r broses o’i gweithredu yn y dyddiau cynnar, gan ystyried a wnaeth Llywodraeth Cymru a Chyllid Cymru sefydlu’r Gronfa ac arolygu ei gweithrediadau cychwynnol (yn cynnwys y tri buddsoddiad cyntaf) yn effeithiol.

 

Mae “gwyddorau bywyd” (yn bennaf, bywydeg, biotechnoleg feddygol, geneteg a disgyblaethau cysylltiedig) yn rhan arwyddocaol a chynyddol o dwf economaidd mewn gwledydd diwydiannol modern ym mhob rhan o’r byd ac mae llawer o lywodraethau naill ai’n buddsoddi yn y sector pwysig hwn neu’n cefnogi buddsoddiadau o’r fath. Cronfa ecwiti benodol yw hon sy’n cael ei dal ar ran Llywodraeth Cymru gan Cyllid Cymru (Finance Wales Plc). Mae targed gan y Gronfa o fuddsoddi gwerth £100 miliwn mewn busnesau gwyddorau bywyd sydd eisoes wedi eu lleoli yng Nghymru neu rai y bwriedir eu lleoli yng Nghymru.

 

Oherwydd cyfyngiadau amser, dim ond un sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd  gan y Pwyllgor, ond mae wedi argymell yn ei Adroddiad Etifeddiaeth bod ei Bwyllgor olynol yn cynnal ymchwiliad mwy manwl i Gronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru, yn gynnar yn ystod y pumed Cynulliad.

 

 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/12/2015

Dogfennau