Tlodi Plant
Tlodi Plant
Inquiry5
Cynhaliodd
Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei
strategaeth tlodi plant [bydd y linc yn agor mewn ffenestr newydd] ddrafft,
gan ganolbwyntio ar bum amcan drafft sydd â’r nod o:
>>>>
>>>
leihau costau a gwneud y mwyaf o incwm teuluoedd;
>>> creu
llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael
cyfleoedd i wireddu eu potensial;
>>>
cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth
Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant
arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell;
>>>
sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch
gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r
stigma sy'n gysylltiedig â thlodi; a
>>>
sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain
at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.
<<<<
Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol ymchwiliad manwl i drafod y strategaeth ddrafft mewn rhagor o
fanylder, gyda’r bwriad o ddylanwadu ar gynnwys y strategaeth derfynol sydd i’w
chyhoeddi erbyn diwedd 2023.
Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl yr
ymchwiliad oedd trafod:
>>>>
>>> i ba
raddau y bydd y strategaeth ddrafft yn cefnogi Llywodraeth Cymru a'i
sefydliadau partner i wneud y mwyaf o'u cyfraniad at leihau tlodi plant o fewn
ffiniau'r setliad datganoli;
>>> beth
yw’r arfer gorau sydd i’w weld yng Nghymru a thu hwnt wrth fynd i'r afael â
thlodi plant, a pham mae'r ymyriadau hyn yn gweithio. I ba raddau mae'r dull a
amlinellir yn y strategaeth yn cyd-fynd â hyn;
>>> beth
yw’r rwystrau o ran gweithredu atebion sy’n mynd i'r afael â thlodi plant yng
Nghymru yn llwyddiannus, a sut y gellir goresgyn y rhain;
>>> pa
ddangosyddion y dylid eu defnyddio i fesur cynnydd wrth ymdrin â thlodi plant a
pha dargedau penodol a mesuradwy y dylid eu pennu i asesu hyn;
>>> pa
mor effeithiol fydd y strategaeth wrth fynd i’r afael â thlodi plant o fewn
grwpiau penodol o'r boblogaeth; ac
>>> i ba
raddau y mae hawliau plant yn cael sylw clir yn y strategaeth a'r asesiad
effaith.
<<<<
Cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, ac o ystyried y
croestoriadedd yng nghylchoedd gwaith y ddau bwyllgor, y dylid gwahodd
aelodau’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc
ac Addysg i gymryd rhan yn yr ymchwiliad hefyd.
Cyflwynodd y
Pwyllgor ei adroddiad,
"Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well",
ddydd Llun 6 Tachwedd 2023.
Cafwyd ymateb gan
Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2023.
Cafodd yr
adroddiad ac ymateb Llywodraeth Cymru ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 10
Ionawr 2024.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/07/2023
Papurau cefndir
- Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig) PDF 310 KB
- Comisiynydd Plant (Saesneg yn unig) PDF 814 KB
- Colegau Cymru (Saesneg yn unig) PDF 422 KB
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig) PDF 332 KB
- Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (Saesneg yn unig) PDF 154 KB
- Yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant (Saesneg yn unig) PDF 266 KB
- Yr Athro Rod Hick (Saesneg yn unig) PDF 112 KB
- Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig) PDF 432 KB
- Gofal Canser Tenovus(Saesneg yn unig) PDF 167 KB
- Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- Adroddiad Pwyllgor: "Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well" PDF 2 MB
- Ymateb y Llywodraeth PDF 106 KB