Tlodi Plant
Inquiry4
Cynhaliodd
Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei
strategaeth tlodi plant [bydd y linc yn agor mewn ffenestr newydd] ddrafft,
gan ganolbwyntio ar bum amcan drafft sydd â’r nod o:
· leihau costau a gwneud y mwyaf o incwm
teuluoedd;
· creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant
a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial;
· cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a
gwneud yn siŵr
bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw
mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau
canlyniadau gwell;
· sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u
teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n
rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â
thlodi; a
· sicrhau bod gwaith trawslywodraethol
effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel
ranbarthol a lleol.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a
Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad manwl i drafod y strategaeth ddrafft
mewn rhagor o fanylder, gyda’r bwriad o ddylanwadu ar gynnwys y strategaeth
derfynol sydd i’w chyhoeddi erbyn diwedd 2023.
Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl yr
ymchwiliad oedd trafod:
· i ba raddau y bydd y strategaeth ddrafft
yn cefnogi Llywodraeth Cymru a'i sefydliadau partner i wneud y mwyaf o'u
cyfraniad at leihau tlodi plant o fewn ffiniau'r setliad datganoli;
· beth yw’r arfer gorau sydd i’w weld yng
Nghymru a thu hwnt wrth fynd i'r afael â thlodi plant, a pham mae'r ymyriadau
hyn yn gweithio. I ba raddau mae'r dull a amlinellir yn y strategaeth yn
cyd-fynd â hyn;
· beth yw’r rwystrau o ran gweithredu
atebion sy’n mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru yn llwyddiannus, a sut y
gellir goresgyn y rhain;
· pa ddangosyddion y dylid eu defnyddio i
fesur cynnydd wrth ymdrin â thlodi plant a pha dargedau penodol a mesuradwy y
dylid eu pennu i asesu hyn;
· pa mor effeithiol fydd y strategaeth wrth
fynd i’r afael â thlodi plant o fewn grwpiau penodol o'r boblogaeth; ac
· i ba raddau y mae hawliau plant yn cael
sylw clir yn y strategaeth a'r asesiad effaith.
Cytunodd
Aelodau’r Pwyllgor, yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, ac o ystyried y
croestoriadedd yng nghylchoedd gwaith y ddau bwyllgor, y dylid gwahodd
aelodau’r Pwyllgor
Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gymryd rhan yn yr ymchwiliad hefyd.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/07/2023
Papurau cefndir
- Sefydliad Bevan (Saesneg yn unig)
PDF 310 KB
- Comisiynydd Plant (Saesneg yn unig)
PDF 814 KB
- Colegau Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 422 KB
- Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Saesneg yn unig)
PDF 332 KB
- Y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (Saesneg yn unig)
PDF 154 KB
- Yr Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant (Saesneg yn unig)
PDF 266 KB
- Yr Athro Rod Hick (Saesneg yn unig)
PDF 112 KB
- Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig)
PDF 432 KB
- Gofal Canser Tenovus(Saesneg yn unig)
PDF 167 KB
- Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB
- Adroddiad Pwyllgor: "Amser rhoi diwedd ar dlodi plant: sut y gall Cymru wneud yn well"
PDF 2 MB