Craffu ar Chwaraeon Cymru

Craffu ar Chwaraeon Cymru

Fel rhan o’i gylch gwaith, mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gyfrifol am graffu ar Chwaraeon Cymru fel un o’r cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

 

Sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo chwaraeon a ffyrdd heini o fyw yw Chwaraeon Cymru. Mae’n gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru. Ei weledigaeth yw 'uno cenedl sy’n caru’r campau, lle mae pob plentyn yn gwirioni ar chwaraeon am oes a Chymru’n genedl o bencampwyr'. Mae hefyd yn gyfrifol am ddosbarthu cronfeydd y Loteri i chwaraeon elite a llawr gwlad yng Nghymru.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2023