Craffu ar Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Craffu ar Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Fel rhan o’i gylch gwaith, mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gyfrifol am graffu ar Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru fel un o’r cyrff cyhoeddus datganoledig yng Nghymru.

 

Mae’r Comisiwn yn ymchwilio i amgylchedd hanesyddol Cymru ac yn ceisio sicrhau bod treftadaeth archaeolegol, adeiledig a morwrol gyfoethog Cymru yn cael ei chofnodi’n awdurdodol a’i deall i’r dim. Mae’n gyfrifol am gadw Cofnodion Henebion Cenedlaethol Cymru a darparu mynediad ar-lein i’r cofnodion drwy’r gronfa ddata ar-lein, ‘Coflein’.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2023