Craffu ar Amgueddfa Cymru
Craffu ar Amgueddfa Cymru
Fel rhan o’i
gylch gwaith, mae’r Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
yn gyfrifol am graffu ar Amgueddfa Cymru fel un o’r cyrff cyhoeddus
datganoledig yng Nghymru.
Mae Amgueddfa
Cymru'n gyfrifol am gadw, cyflwyno a hyrwyddo diwylliant Cymru. Corff a
Noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC) yw Amgueddfa Cymru, ac mae CyMAL:
Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd Cymru yn gyfrifol am y polisi a'r gwaith
beunyddiol sy'n ymwneud â'r Amgueddfa. Cafodd Amgueddfa Cymru ei sefydlu drwy
Siarter Frenhinol yn 1907 ac mae ganddi saith safle:
>>>>
>>> Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
>>> Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
>>> Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
>>> Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
>>> Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, Sir
Gaerfyrddin
>>> Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
>>> Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
<<<
Math o fusnes: Arall
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2023