Craffu ar Gyngor Celfyddydau Cymru
Craffu ar Gyngor Celfyddydau Cymru
Fel rhan o’i
gylch gwaith, mae’r Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
yn gyfrifol am graffu ar Gyngor Celfyddydau Cymru fel un o’r cyrff cyhoeddus
datganoledig yng Nghymru.
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn hyrwyddo a
datblygu’r celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru’n
darparu grant blynyddol i’r Cyngor er mwyn rhoi cyfle i bobl Cymru brofi a
chymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol.
Yn ogystal â
chefnogi a datblygu gweithgareddau celfyddydol o’r radd flaenaf, mae
gweithgareddau eraill Cyngor y Celfyddydau’n cynnwys:
>>>>
>>> dosbarthu cyllid y Loteri i’r celfyddydau yng
Nghymru
>>> darparu cyngor am y celfyddydau
>>> codi proffil y celfyddydau yng Nghymru
>>> cynhyrchu mwy o arian ar gyfer yr economi
celfyddydol
>>> datblygu cyfleoedd rhyngwladol ym myd y
celfyddydau
>>> hyrwyddo perfformiadau ar raddfa fach mewn
cymunedau lleol
<<<
Math o fusnes: Arall
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/05/2023