Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Sefydlwyd Iechyd
a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig newydd ym mis Ebrill
2021, gan ddisodli Gwasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru. Mae ei rolau o ran
trawsnewid darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cynnwys:
darparu atebion digidol newydd, cefnogi staff rheng flaen gyda systemau modern,
a gwella dulliau o ddefnyddio, rhannu a storio data.
Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cytuno i gydweithio i graffu ar DHCW.
Yn benodol, bydd
y Pwyllgorau yn ystyried:
>>>>
>>> Y broses o sefydlu Iechyd a Gofal Digidol
Cymru a’r cynnydd yn y flwyddyn gyntaf, y cynnydd a gyflawnwyd a'r heriau sy'n
weddill.
>>> Y cynnydd a wnaed ar argymhellion adroddiadau
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd.
>>> Blaenoriaethu
a’r gallu i reoli'r rhaglen waith a'r agenda newid, gan gynnwys y gweithlu,
materion yn ymwneud â sgiliau, seiberddiogelwch ac unrhyw feysydd o bwysau neu
bryder penodol.
>>> Y
gydberthynas â byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau'r GIG, awdurdodau lleol,
darparwyr gwasanaethau cymdeithasol, a rhanddeiliaid allweddol eraill gan
gynnwys grwpiau cleifion a chleifion.
>>> Capasiti’r
gweithlu a sgiliau o fewn cyrff iechyd a gofal eraill; a oes ganddynt ddigon o
gapasiti i ymgysylltu a'r effaith bosibl ar gyflawni blaenoriaethau Iechyd a
Gofal Digidol Cymru.
>>> Asesu
effaith gwaith Iechyd a Gofal Digidol Cymru ac a yw'n cyflawni ei amcanion.
>>> Tryloywder
data, hygyrchedd, ansawdd a chymaroldeb â data iechyd a gofal cymdeithasol a
dangosyddion perfformiad allweddol ledled y DU.
<<<
Casglu
tystiolaeth
Rydym am wneud yn
siŵr bod ein gwaith yn
cael ei lywio gan brofiadau, anghenion, a safbwyntiau sy’n adlewyrchu
amrywiaeth y bobl a’r cymunedau y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt
>>>>
>>>Derbyniodd
y Pwyllgorau 20
o ymatebion ysgrifenedig i’n galwad am dystiolaeth.
>>>Ar 26
Hydref 2022 cynhaliodd y Pwyllgorau gyfarfod cydamserol i gymryd
tystiolaeth lafar gan DHCW.
<<<
Ar 5 Gorffennaf
2023, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu hadroddiad.
Mae’r Pwyllgorau wedi gofyn am ymatebion ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru ac
Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/07/2022
Dogfennau
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Cydbwyllgor ar y Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru – 17 Awst 2023 PDF 1 MB
- Ymateb DHCW i adroddiad y Cydbwyllgor ar y Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) - 16 Awst 2023 PDF 2 MB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Lywodraeth Cymru - 5 Rhagfyr 2022 PDF 165 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i'r Byrddau Iechyd - 5 Rhagfyr 2022 PDF 106 KB
- Llythyr gan yr Archwilydd Cyffredinol i'r Cadeirydd ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru - 1 Gorffennaf 2022 PDF 340 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan at y Cadeirydd ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru – 9 Ionawr 2023 PDF 137 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at y Cadeirydd ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru - 11 Ionawr 2023 PDF 24 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda at y Cadeirydd ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru - 13 Ionawr 2023 PDF 528 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys at y Cadeirydd ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru - 30 Ionawr 2023 PDF 383 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe at y Cadeirydd ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru - 13 Ionawr 2023 PDF 133 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cym Taf Morgannwg at y Cadeirydd ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru - 12 Ionawr 2023 PDF 111 KB
- Llythyr gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro at y Cadeirydd ar System Gwybodaeth Gofal Cymunedol Cymru - 9 Ionawr 2023 PDF 181 KB
- Llythyr oddi wrth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dilyn yr adroddiad ar y cyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn craffu ar waith Iechyd a Gofal Digidol Cymru - 19 Rhagfyr 2023 (Saesneg yn unig) PDF 744 KB
- Llythyr oddi wrth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dilyn yr adroddiad ar y cyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn craffu ar waith Iechyd a Gofal Digidol Cymru - 14 Chwefror 2024 PDF 742 KB
Ymgynghoriadau
- Craffu ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Wedi ei gyflawni)