Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical
Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ymchwil i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ei hymrwymiad yn
ei Rhaglen Lywodraethu i 'ystyried cyfleoedd radical i ddiwygio’r gwasanaethau
presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac yn gadael gofal'.
Mae'r Pwyllgor wedi cyhoeddi ei
adroddiad o'r enw ‘Os nad nawr, yna pryd? Diwygio radical ar gyfer plant a
phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal’ ac adroddiad
cryno ar 24 Mai 2023.
Ar 5 Gorffennaf cafodd y Pwyllgor ymateb (PDF
291KB) i'r adroddiad gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd dadl
yn y Cyfarfod
Llawn ddydd Mercher 12 Gorffennaf 2023.
Roedd y Dirprwy
Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 14
Medi, ar gyfer sesiwn graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad. Cyn
y sesiwn, ysgrifennodd
(PDF 217KB) y Pwyllgor at Lywodraeth
Cymru. Cyn y sesiwn, cawsom ymateb (PDF 1MB). Yn dilyn y sesiwn, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu
(PDF 165KB) at y Dirprwy Weinidog i fynd ar drywydd rhai meysydd. Cafwyd ymateb
(PDF 275KB) ym mis Rhagfyr. Ysgrifennodd
(PDF 849KB) y Pwyllgor hefyd at Gofal Cymdeithasol Cymru ynghylch defnyddio
staff asiantaeth mewn gwasanaethau plant, a derbyniwyd ymateb
(PDF 275KB).
Mae Ymchwil y Senedd wedi llunio papur
briffio ystadegol ar blant sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru.
Cefndir yr ymchwiliad
Bu cynnydd o 35 y cant mewn plant sy'n derbyn gofal rhwng
2011 a 2021:
>>>>
>>>Yn 2011, roedd 5,410 o blant mewn gofal yng
Nghymru.
>>>Erbyn 2021 roedd 7,265 o blant yng ngofal
awdurdodau lleol Cymru.
<<<
Yn 2011, am bob 10,000 o enedigaethau yng Nghymru, daeth 43
o fabanod newydd-anedig yn destun achos gofal ymhen pythefnos ar ôl eu geni.
Erbyn 2018 roedd y ffigur hwn wedi mwy na dyblu i 83 o fabanod am bob 10,000 o
enedigaethau.
Mae plant sy'n derbyn gofal yn uchel ar yr agenda
gwleidyddol yn dilyn ymrwymiad personol y Prif Weinidog i leihau nifer y plant
mewn gofal. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfres o
ymrwymiadau perthnasol a phellgyrhaeddol, gan gynnwys i “Edrych ar ddiwygiadau
radical i’r gwasanaethau presennol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai
sy’n gadael gofal”.
Nododd ymgynghoriad y Pwyllgor yn ystod haf 2021 ar ei
flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd hefyd nifer o faterion sy’n
berthnasol i blant sydd wedi bod mewn gofal:
>>>>
>>>Cymorth a lleoliadau i blant mewn gofal
>>>Llety a chymorth i'r rhai sy'n gadael gofal
>>>Gwasanaethau eirioli plant
>>>Y gweithlu gofal cymdeithasol plant
<<<
Cylch Gorchwyl
Gwnaethom edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud
i gyflawni ei hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i "archwilio diwygio
gwasanaethau presennol yn radical ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai
sy'n gadael gofal".
Nod ein hymchwiliad oedd nodi’r prif flaenoriaethau ar
gyfer meysydd polisi lle mae angen newid ac a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth
mwyaf i fywydau plant a phobl ifanc.
Gwnaethom ystyried blaenoriaethau ar gyfer diwygio
radical yn y tri cham canlynol o'r system ofal:
>>>>
>>>Cyn gofal: Lleihau nifer y plant yn y system
ofal yn ddiogel
>>>Mewn gofal: Gwasanaethau o safon a
chefnogaeth i blant mewn gofal
>>>Ôl-ofal:
Cefnogaeth barhaus pan fydd pobl ifanc yn gadael gofal
<<<
Casglu tystiolaeth
Yn ystod diwedd 2022, cynhaliodd y Pwyllgor gyfres o
gyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Cymru gyda phlant sydd â phrofiad o ofal a
rhieni geni y tynnwyd plentyn oddi wrthynt. Mae adroddiad cryno o'r sesiynau
hyn wedi cael ei gyhoeddi.
Ar ddechrau 2023 clywodd y Pwyllgor dystiolaeth lafar a
chynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau i randdeiliaid, cyhoeddwyd
adroddiad cryno o'r digwyddiadau hyn i randdeiliad.
Ar 24 Chwefror sefydlodd swyddogion y Senedd stondin yn y
digwyddiad 'Proud To Be Me' i siarad â'r rhai oedd yn bresennol am ymchwiliad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ‘Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn
gofal: archwilio diwygio radical’. Gofynnwyd i'r rhai oedd yn bresennol
ysgrifennu syniadau ar gyfer diwygio radical i'r system ofal ar gardiau post
a'u postio mewn blwch pleidleisio. Mae crynodeb o'r ymatebion a gafwyd wedi
cael ei gyhoeddi.
Ymgynghoriad
Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar
06 Hydref 2022. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 17 Chwefror 2023. Mae'r holl
ymatebion wedi'u cyhoeddi.
Y camau nesaf
Bydd y Dirprwy
Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor o fewn 6
wythnos i'r dyddiad cyhoeddi. Unwaith y bydd y Pwyllgor wedi ystyried yr
ymateb, bydd dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu.
Gohebiaeth gyda Llywodraeth Cymru ers cyhoeddi'r
adroddiad
>>>>
>>> Llythyr
gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol – 15 Ebrill 2024 (PDF 230KB)
>>>Llythyr
at y Dirprwy Weinidog ynghylch trin profiad o fod mewn gofal fel nodwedd
warchodedig – 11 Mawrth 2024 (PDF 135KB)
>>>Ymateb
ynghylch cau'r cynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac Alcohol – 15 Chwefror
2024 (PDF 216KB)
>>>Llythyr
at y Dirprwy Weinidog ynghylch data yn ymwneud â staff asiantaethau
gwasanaethau plant – 20 Rhagfyr 2023 (PDF 145KB)
>>>Llythyr
at y Dirprwy Weinidog ynghylch cau’r cynllun peilot Llysoedd Teulu Cyffuriau ac
Alcohol – 19 Rhagfyr 2023 (PDF 236KB)
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Cyhoeddwyd gyntaf: 06/07/2022
Dogfennau
- Llythyr gan Gyngor Bro Morgannwg - 14 Tachwedd 2023 PDF 144 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 9 Hydref 2023 PDF 168 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 25 Medi 2023 PDF 152 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Cyngor Caerdydd - 25 Medi 2023 PDF 139 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Cyngor Bro Morgannwg - 25 Medi 2023 PDF 139 KB
- Ymateb gan Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 10 Awst 2023 PDF 1 MB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brif Weinidog Cymru a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 14 Gorffennaf 2023 PDF 217 KB
- Llythyr at y Llywydd gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Chadeirydd y Pwyllgor Deisebau - 29 Mehefin 2023 PDF 220 KB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 26 Mehefin 2023 PDF 198 KB
- Adroddiad Cryno - Os nad nawr, pryd? - 24 Mai 2023 PDF 2 MB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 24 Ebrill 2023 PDF 189 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau- 5 Ebrill 2023 PDF 95 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 30 Mawrth 2023 PDF 134 KB
- Canfyddiadau digwyddiadau i randdeiliaid - Mawrth 2023 PDF 245 KB
- Canfyddiadau’r gwaith ymgysylltu - Mawrth 2023 PDF 248 KB
- Cynigion ar gyfer camau diwygio radical gan rai oedd yn bresennol yn nigwyddiad 'Proud To Be Me' gan Voices from Care - Chwefror 2023 PDF 796 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - 28 Chwefror 2023 PDF 203 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - 28 Chwefror 2023 PDF 205 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Prif Weinidog a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 28 Chwefror 2023 PDF 246 KB
- Llythyr gan Gadeirydd Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan (AWHoCS) - 16 Chwefror 2023 (Saesneg yn unig) PDF 222 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Cymru - 30 Iomawr 2023 PDF 214 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Brif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru - 30 Ianawr 2023 PDF 214 KB
- Trawsgrifiad o'r sesiwn gyda phobl ifanc ar 18 Ionawr 2023 (Saesneg yn unig) PDF 165 KB
- Llythyr ar y cyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 1 Rhagfyr 2022 PDF 207 KB
- Llythyr at Gadeirydd Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan, ADSS Cymru - 14 Rhagfyr 2022 PDF 124 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol - 11 Hydref 2022 PDF 163 KB
Ymgynghoriadau
- Gwasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal: archwilio diwygio radical (Wedi ei gyflawni)