Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd ei adroddiad 'Diwygio ein
Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru' ar 30 Mai 2022.
Sefydlwyd y Pwyllgor ar 6 Hydref 2021, gyda chylch
gorchwyl i:
>>>>
>>>ystyried y casgliadau a wnaed yn flaenorol
gan y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn y Bumed Senedd; ac
>>>erbyn 31 Mai 2022, gwneud argymhellion ar
gyfer cyfarwyddiadau polisi ar gyfer Bil Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r
Senedd.
<<<
Gwnaeth y Pwyllgor strwythuro ei waith o amgylch y camau
eang canlynol:
>>>>
>>>Cam Un: Bydd aelodau'n nodi lle mae tir
cyffredin rhwng safbwyntiau polisi eu pleidiau gwleidyddol ar ddiwygio’r
Senedd, neu’r posibilrwydd o sefydlu tir cyffredin;
>>>Cam Dau: o ran meysydd a nodwyd yng Ngham 1,
casglu rhagor o wybodaeth yn ôl yr angen er mwyn i'r Pwyllgor ddatblygu
argymhellion ar gyfer cyfarwyddiadau polisi; a
>>>Cham Tri: datblygu argymhellion ar gyfer
cyfarwyddiadau polisi.
<<<
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/05/2022
Dogfennau
- Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru
- Hawdd ei Ddeall - Newidiadau Posibl i'r Senedd
PDF 1 MB
- Llywodraeth Cymru - Ymateb i Adroddiad y Y Pwyllgor Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd
- Datganiad i'r Cyfryngau
- Blog y Gwasanaeth Ymchwil ‘Y Senedd i drafod cynigion ar gyfer Senedd â 96 o Aelodau’
- Diwygio’r Senedd: geirfa
- Gohebiaeth