Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed

Fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn ystyried y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed.

 

Cyhoeddwyd y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch ac ansawdd gwaed ar 2 Rhagfyr 2021. Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig yn cydweithio mewn perthynas â safonau diogelwch ac ansawdd ar gyfer gwaed a chyfansoddion gwaed y tu allan i’r UE.

Ar 17 Rhagfyr 2021, ysgrifennodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am wybodaeth bellach am y fframwaith.

 

Ar ôl ystyried yr ymatebion a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ysgrifennodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog ar 21 Mawrth 2022 yn gwneud nifer o argymhellion.

 

Darparodd y Gweinidog ymateb dros dro ar 9 Mai 2022 yn nodi na allai ymateb i’r argymhellion nes bod holl ddeddfwrfeydd y DU wedi cwblhau eu gwaith craffu ar y fframwaith. Ysgrifennodd y Pwyllgor yn ôl at y Gweinidog ar 14 Mehefin 2022 i ofyn am ymatebion sylweddol i argymhellion a oedd yn benodol i Gymru neu i Lywodraeth Cymru. Darparodd y Gweinidog ymateb dros dro pellach ar 11 Gorffennaf 2022.

 

Mae mwy o wybodaeth gefndirol am fframweithiau cyffredin a gwaith craffu’r Senedd ar gael ar y dudalen we’r fframweithiau cyffredin.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2021

Dogfennau