Fframwaith cyffredin arfaethedig ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd
Fframwaith cyffredin arfaethedig ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn ystyried y fframwaith cyffredin arfaethedig ar gyfer diogelu iechyd y
cyhoedd a diogelwch iechyd.
Cyhoeddwyd y fframwaith
cyffredin arfaethedig ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd ar
28 Hydref 2021. Mae'n nodi sut y bydd Llywodraeth y DU, llywodraethau
datganoledig ac asiantaethau iechyd cyhoeddus yn cydweithio er mwyn diogelu
iechyd y cyhoedd, ac er diogelwch iechyd y tu allan i'r UE.
Ar 26 Tachwedd
2021, ysgrifennodd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ofyn am wybodaeth bellach ynghylch y
fframwaith.
Ar ôl ystyried yr
ymatebion a ddaeth i law gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Iechyd
Cyhoeddus Cymru, ysgrifennodd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog ar 21 Mawrth 2022.
Darparodd y Gweinidog
ymateb
dros dro ar 9 Mai 2022, gan nodi na allai ymateb i’r argymhellion nes bod
holl ddeddfwrfeydd y DU wedi cwblhau eu gwaith craffu ar y fframwaith. Ysgrifennodd
y Pwyllgor yn ôl at y Gweinidog ar 14 Mehefin 2022 i ofyn am ymatebion
sylweddol i argymhellion a oedd yn benodol i Gymru neu i Lywodraeth Cymru.
Darparodd y Gweinidog ymateb
dros dro pellach ar 11 Gorffennaf 2022
Mae mwy o wybodaeth
gefndirol am fframweithiau cyffredin a gwaith craffu’r Senedd ar gael ar y dudalen we’r fframweithiau cyffredin.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2021
Dogfennau
- Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Diogelu Iechyd y Cyhoedd a Diogelwch Iechyd - 28 Hydref 2021 PDF 491 KB
- Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru - 26 Tachwedd 2021 PDF 122 KB
- Fframwaith cyffredin arfaethedig ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd - 17 Ionawr 2022 PDF 1020 KB
- Llythyr gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelu iechyd y cyhoedd a diogelwch iechyd - 12 Ionawr 2022 PDF 409 KB
- Llythyr at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframweithiau cyffredin dros dro - 21 Mawrth 2022 PDF 281 KB
- Llythyr gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframwaith cyffredin dros dro - 9 Mai 2022 PDF 338 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y fframweithiau cyffredin dros dro - 14 Mehefin 2022 PDF 145 KB
- Ymateb gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Cadeirydd ynghylch y fframweithiau cyffredin dros dro - 11 Gorffennaf 2022 PDF 146 KB