Fframwaith Cyffredin Taliadau Hwyr (trafodion masnachol) - Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus
Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried y Fframwaith Cyffredin Taliadau Hwyr (trafodion
masnachol) a’r Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus.
Fframweithiau
cyffredin
Yn dilyn
penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, cytunodd Llywodraeth y DU a'r
llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i greu
dulliau gweithredu cyffredin ledled y DU – neu 'fframweithiau' – mewn meysydd
polisi a lywodraethwyd ynghynt gan gyfraith yr UE, ond sydd o fewn cymhwysedd y
llywodraethau neu'r deddfwrfeydd datganoledig.
Mae rhagor o
wybodaeth gefndirol am fframweithiau cyffredin a gwaith craffu’r Senedd ar gael
ar y dudalen
we’r fframweithiau cyffredin.
Taliadau hwyr: Fframwaith Cyffredin Dros Dro
Cyhoeddwyd y fframwaith
cyffredin dros dro ar daliadau hwyr (Saesneg yn unig) ar 16 Rhagfyr 2021.
Mae’r Fframwaith Taliadau Hwyr yn cael ei sefydlu i alluogi gweithrediad
marchnad fewnol y DU, tra’n cydnabod yr ymwahanu o ran polisi rhwng Llywodraeth
y DU a’r llywodraethau datganoledig ynghylch taliadau hwyr o ran trafodion
masnachol.
Fframwaith Cyffredin ar gyfer Caffael Cyhoeddus
Cyhoeddwyd y fframwaith
cyffredin dros dro (Saesneg yn unig) ar gyfer Caffael Cyhoeddus ar 27
Ionawr 2022. Caiff y Fframwaith ei sefydlu oherwydd yr ystyrir ei fod yn
angenrheidiol er mwyn cyflawni’r canlyniadau a ganlyn a nodir yn Egwyddorion y
Fframweithiau:
●
galluogi marchnad fewnol y DU i weithredu, ond gan gydnabod ymwahanu o ran
polisi;
●
sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau rhyngwladol; a
●
sicrhau y gall y DU drafod cytundebau masnach newydd a chytuniadau rhyngwladol
newydd, ymrwymo iddynt a’u rhoi ar waith.
Ar 10 Chwefror
2022, ysgrifennodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at:
• Y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; a
• Gweinidog
yr Economi, i ofyn am ragor o wybodaeth am y fframwaith.
Ymatebodd
Gweinidog yr Economi ar 25 Chwefror ac ymatebodd
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 1 Mawrth 2022. Trafododd y
Pwyllgor ymatebion y Gweinidogion a chytunwyd arnynt.
Yn dilyn hynny,
gwnaeth y Pwyllgor ysgrifennu
at Weinidog yr Economi a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 23
Mehefin 2022 ynghylch eu sylwadau am y fframwaith, a’r dull gweithredu yn fwy
cyffredinol.
Mae'r Pwyllgor
bellach wedi gorffen ystyried y maes gwaith hwn.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/12/2021
Dogfennau
- Llythyr gan y Cadeirydd i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a Gweinidog yr Economi - 23 Mehefin 2022
PDF 197 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i'r Cadeirydd am y Fframwaith Cyffredin ar gyfer caffael cyhoeddus - 1 Mawrth 2022
PDF 714 KB
- Llythyr gan Weinidog yr Economi i'r Cadeirydd am y Fframwaith Cyffredin ar gyfer Taliadau Hwyr - 25 Chwefror 2022
PDF 283 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at Weinidog yr Economi ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar Daliadau Hwyr – 10 Chwefror 2022
PDF 114 KB
- Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch y Fframwaith Cyffredin ar Gaffael – 10 Chwefror 2022
PDF 158 KB