NDM7842 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM7842 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM7842
Mabon ap Gwynfor
(Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn croesawu dull gweithredu llwybr canser sengl Llywodraeth Cymru.
2.
Yn cydnabod:
a)
mai canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru a bod 19,600 o bobl yn cael
diagnosis o ganser bob blwyddyn yng Nghymru (2016-2018).
b)
bod COVID-19 wedi gwaethygu'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau canser yng
Nghymru, gyda thua 1,700 yn llai o bobl yn dechrau triniaeth canser rhwng
Ebrill 2020 a Mawrth 2021.
c)
bod amseroedd aros canser GIG Cymru ar gyfer mis Gorffennaf 2021 yn dangos mai
61.8 y cant o gleifion sy'n cael eu triniaeth gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r
dyddiad yr amheuir bod ganddynt ganser, canran llawer is na'r targed
perfformiad llwybr canser tybiedig o 75 y cant.
d)
hyd yn oed cyn y pandemig, fod Cymru'n profi bylchau sylweddol yn y gweithlu
sy'n rhoi diagnosis o ganser ac yn ei drin, er enghraifft ym maes
delweddu, endosgopi, patholeg, oncoleg nad yw'n lawfeddygol a nyrsys arbenigol.
e)
heb fuddsoddiad aml-flwyddyn mewn hyfforddiant a chyflogi mwy o staff i lenwi
swyddi gwag cyfredol, na fydd gan Gymru'r staff rheng flaen a'r arbenigwyr sydd
eu hangen i fynd i'r afael â'r ôl-groniad canser, ymdopi â'r galw yn y dyfodol,
neu wneud cynnydd tuag at uchelgeisiau i roi diagnosis a thrin mwy o ganserau
yn gynnar.
f)
bod Cynghrair Canser Cymru wedi beirniadu'r datganiad ansawdd ar gyfer canser,
a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, am beidio â darparu gweledigaeth glir i
gefnogi gwasanaethau canser i adfer o effaith y pandemig a gwella
cyfraddau goroesi ymhellach.
g)
mai Cymru fydd yr unig genedl yn y DU heb strategaeth ganser cyn bo hir, y mae
Sefydliad Iechyd y Byd yn argymell bod un gan bob gwlad.
3.
Yn croesawu'r cynlluniau peilot clinig diagnostig cyflym llwyddiannus ym Mwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a bod
Rhwydwaith Canser Cymru wedi darparu cyllid i bob bwrdd iechyd arall i
ddatblygu clinigau diagnostig cyflym.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar
gyfer canser, gan gynnwys targedau a mecanweithiau uchelgeisiol ar gyfer
olrhain buddsoddiad cynnydd ar gyfer staff, offer a seilwaith;
b)
mynd i'r afael â phrinder staff hirsefydlog o fewn gwasanaethau canser a
diagnostig;
c)
ystyried sut y gellid cymhwyso'r argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Mike
Richards o wasanaethau diagnostig yn Lloegr yng Nghymru.
Cefnogwyr:
Altaf Hussain (Gorllewin
De Cymru)
Cefin
Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Heledd Fychan
(Canol De Cymru)
James Evans
(Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Jane Dodds
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Janet
Finch-Saunders (Aberconwy)
Joel James
(Canol De Cymru)
Laura Anne Jones
(Dwyrain De Cymru)
Luke Fletcher
(Gorllewin De Cymru)
Mark Isherwood
(Gogledd Cymru)
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro)
Peter Fox
(Mynwy)
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Rhys ab Owen
(Canol De Cymru)
Sam Rowlands
(Gogledd Cymru)
Siân Gwenllian
(Arfon)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2021