COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd ymchwiliad i’r pandemig COVID-19 yng Nghymru yn ystod tymor yr haf a thymor yr hydref 2020. Roedd yr ymchwiliad yn trafod yr ymateb i’r coronafeirws a’i effaith ar y meysydd a ganlyn:

  • effaith economaidd COVID-19 (gan groesgyfeirio at yr ymchwiliad i Gymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnes);
  • COVID-19: effeithiau ar Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru;
  • ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19;
  • yr effaith ar Gomisiwn y Senedd.

 

Yn ystod tymor y gwanwyn 2021, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru nifer o Adroddiadau yn ymwneud â'r pandemig. Buodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn ystyried yr adroddiadau hyn ac yn trafod mewn sesiynau dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru.

 

Mae'r Pwyllgor bellach wedi gorffen ystyried y maes gwaith hwn.

Math o fusnes: Arall

Cyhoeddwyd gyntaf: 05/08/2021

Dogfennau