Adroddiadau mewn cysylltiad â chyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir
Roedd Deddf yr
Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU
adrodd i Senedd y DU ar faterion amrywiol sy'n ymwneud â fframweithiau cyffredin,
a'r defnydd o bwerau adran 12 i gynnal terfynau cyfraith presennol yr EU ar
gymhwysedd datganoledig dros dro, a hynny ar ôl diwedd pob cyfnod o dri mis,
gan ddechrau gyda'r tri mis o Gydsyniad Brenhinol y Ddeddf. Hefyd, mae’n rhaid rhannu'r adroddiadau
gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau yr un lefel o waith craffu
datganoledig.
Diddymwyd y
darpariaethau perthnasol yn Neddf 2018 gan Reoliadau
Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Diddymu Cyfyngiadau'r Undeb
Ewropeaidd mewn Deddfwriaeth Ddatganoli, etc.) 2022 (SI 2022/357).
*Gellir dod o hyd
i fanylion am adroddiadau o'r fath a osodwyd yn ystod y Pumed Senedd ar yr
dudalen Adroddiadau mewn cysylltiad
â chyfyngiadau cyfraith yr UE a ddargedwir – Pumed Senedd.
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/09/2021
Dogfennau
- Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru - 19 Tachwedd 2021
PDF 217 KB Gweld fel HTML (1) 10 KB
- Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin - 26 Mawrth 2021 hyd at 25 Mehefin 2021 (Saesneg yn unig)
PDF 847 KB
- Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru - 2 Mehefin 2021
PDF 276 KB
- Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin - 26 Rhagfyr 2020 hyd at 25 Mawrth 2021 (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB