Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amgylchedd 2020

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amgylchedd 2020

Cyflwynwyd y Bil Amgylchedd (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 30 Ionawr 2020.

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 (PDF 1,551KB). Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 368KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2021.

 

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi datgan mai ei hamcanion polisi ar gyfer y Bil hwn yw darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer llywodraethu amgylcheddol unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE, a darparu hefyd ar gyfer gwella’r amgylchedd mewn ffyrdd penodol, gan gynnwys mesurau ar wastraff ac effeithlonrwydd o ran adnoddau, ansawdd aer ac adalw amgylcheddol, dŵr, natur a bioamrywiaeth, a chyfamodau cadwraeth.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 13 Medi 2021.

 

*Gosododd Llywodraeth Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil hwn yn ystod y Pumed Senedd.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2021

Dogfennau