Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amgylchedd 2020
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Amgylchedd 2020
Cyflwynwyd y Bil Amgylchedd (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 30 Ionawr 2020.
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29
(PDF 1,551KB). Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad
Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod
o fewn cymhwysedd y Senedd.
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 368KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 18
Mehefin 2021.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi
datgan mai ei hamcanion polisi ar gyfer y Bil hwn yw darparu fframwaith
cyfreithiol ar gyfer llywodraethu amgylcheddol unwaith y bydd y DU yn gadael yr
UE, a darparu hefyd ar gyfer gwella’r amgylchedd mewn ffyrdd penodol, gan
gynnwys mesurau ar wastraff ac effeithlonrwydd o ran adnoddau, ansawdd aer ac
adalw amgylcheddol, dŵr,
natur a bioamrywiaeth, a chyfamodau cadwraeth.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r
Memorandwm at y Pwyllgor
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno
adroddiad arno erbyn 13 Medi 2021.
*Gosododd
Llywodraeth Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil hwn yn
ystod y Pumed
Senedd.
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2021
Dogfennau