Cemegion a Phlaladdwyr - Fframwaith Cyffredin

Cemegion a Phlaladdwyr - Fframwaith Cyffredin

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ystyried y fframwaith cyffredin ar gyfer Cemegion a Phlaladdwyr.

 

Cyhoeddwyd y fframwaith cyffredin ar gyfer Cemegion a Phlaladdwyr (Saesneg yn unig) ar 4 Chwefror 2022.

 

Ar 17 Chwefror 2022, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y fframwaith cyffredin ar Gemegion a Phlaladdwyr.

 

Yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, ysgrifennodd (PDF 128KB) y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd i gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith. Ymatebodd (PDF 378KB) y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd ar 5 Ebrill 2022.

 

Adroddiad

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Fframweithiau cyffredin – Adroddiad 1 Fframweithiau Cyffredin dros dro ar gyfer Ansawdd Aer, a Chemegion a Phlaladdwyr ar 18 Mai 2022

 

 

 

Mae mwy o wybodaeth gefndirol am fframweithiau cyffredin a gwaith craffu’r Senedd ar gael ar y dudalen we’r fframweithiau cyffredin.

Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/02/2022

Dogfennau