P-05-1005 Sicrhau nad yw gwisgo mygydau mewn siopau yn dod yn orfodol

P-05-1005 Sicrhau nad yw gwisgo mygydau mewn siopau yn dod yn orfodol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1005 Sicrhau nad yw gwisgo mygydau mewn siopau yn dod yn orfodol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Wayne Smith, ar ôl casglu cyfanswm o 412 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Nid yw gorfodi pobl i wisgo mygydau wedi’i brofi 100 y cant i atal lledaeniad y coronaferiws (COVID-19). Mae’n RHAID i bobl gael y dewis, o ran diogelwch personol ac i sicrhau nad ydym yn destun mesurau Draconaidd.

 

green and white striped textile

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ynghyd â P-05-998 Dylid gorfodi gwisgo mygydau/gorchuddion wyneb mewn siopau a chytunwyd i:

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach o ran y pryderon ynghylch gorfodi ac ardystio ar gyfer y rheini sydd wedi'u heithrio rhag gwisgo gorchuddion wyneb; a

·         chau’r ddeiseb gan fod gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau wedi dod yn orfodol yng Nghymru yn ddiweddar.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/09/2020