P-05-998 Dylid gorfodi gwisgo mygydau/gorchuddion wyneb mewn siopau

P-05-998 Dylid gorfodi gwisgo mygydau/gorchuddion wyneb mewn siopau

Wedi'i gwblhau

 

P-05-998 Dylid gorfodi gwisgo mygydau/gorchuddion wyneb mewn siopau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Matthew Engstrom, ar ôl casglu cyfanswm o 5,516 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ym maes manwerthu ac, er gwaethaf ymdrech gynhwysfawr iawn gan fy nghyflogwr, nid yw’r camau diogelwch sydd ar waith yn ddigon os yw cwsmer yn penderfynu anwybyddu’r rheolau. Byddai gorfodi gwisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i siopau’n ffordd deg ac effeithiol o ddiogelu staff a chwsmeriaid ymhellach.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd gwisgo gorchuddion wyneb mewn siopau’n helpu i atal trosglwyddo Covid 19 ac, yn ogystal ag ymdrechion cadw pellter cymdeithasol a hylendid, bydd yn diogelu staff a chwsmeriaid ymhellach.

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/09/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ynghyd â P-05-1005 Sicrhau nad yw gwisgo mygydau mewn siopau yn dod yn orfodol a chytunwyd i:

·         ysgrifennu yn ôl at y Gweinidog yn gofyn am eglurhad pellach o ran y pryderon ynghylch gorfodi ac ardystio ar gyfer y rheini sydd wedi'u heithrio rhag gwisgo gorchuddion wyneb; a

·         chau’r ddeiseb gan fod gwisgo gorchudd wyneb mewn siopau wedi dod yn orfodol yng Nghymru yn ddiweddar.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/09/2020