Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Y Bumed Senedd

Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Y Bumed Senedd

Inquiry5

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon – Y Bumed Senedd ymchwiliad i effaith Covid-19, a’r modd y mae’n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru rhwng Mawrth 2020 ac Ebrill 2021.

 

Ystyriodd yr ymchwiliad effaith yr argyfwng, a'r modd y mae’n cael ei reoli, ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Fel rhan o hyn, ystyriodd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol, yn ogystal ag ystyried yr effaith ar staff, cleifion ac eraill sy’n cael gofal neu driniaeth mewn lleoliadau clinigol a'r gymuned. Ystyriodd hefyd ymateb Cymru yng nghyd-destun ehangach y DU.

 

Fel rhan o’i waith ar anghydraddoldebau iechyd meddwl, ysgrifennodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar 11 Gorffennaf 2022 i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am argymhellion Pwyllgor y Pumed Senedd. Ymatebodd y Gweinidogion ar 31 Ionawr 2023.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/04/2020

Dogfennau

Ymgynghoriadau