Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid
ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft.
Roedd hyn yn dilyn ymchwiliad y
Pwyllgor Cyllid i drafod
cynigion i ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Ym mis Rhagfyr 2019, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Trafodaeth o’r cynigion i
ddiwygio Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (PDF, 2.7MB), a chytunodd i gynnal ymgynghoriad ar Fil Drafft, gyda’r bwriad o’i
gyhoeddi yn ystod y Bumed Senedd. Mae'r Bil Drafft yn ceisio diwygio Deddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013 er mwyn mynd i’r afael â materion a nodwyd yn
ystod gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol y Pwyllgor ar y Ddeddf.
O ystyried yr amser cyfyngedig a oedd yn weddill yn y
Bumed Senedd a phandemig y coronafeirws, nid oedd y Pwyllgor yn gallu
cyflwyno'r Bil. Yn lle, cyflwynodd
adroddiad ar ganlyniad ei ymgynghoriad (PDF, 915KB) ac argymhellodd y dylai
un o bwyllgorau'r Chweched Senedd yn y dyfodol gyflwyno'r Bil.
Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/12/2019
Dogfennau
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - 16 Mehefin 2022
PDF 94 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - 6 Ebrill 2022
PDF 265 KB
- Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - 16 Mawrth 2022
PDF 104 KB
- Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - 3 Mawrth 2022
PDF 253 KB
- Llythyr gan y Pennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru – 7 Chwefror 2020
PDF 98 KB
- Llythyr at Bennaeth Cyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru - 2 Chwefror 2021
PDF 227 KB
- Adroddiad: Trafod yr ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft
PDF 915 KB
Ymgynghoriadau
- Ymgynghoriad ar y Bil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft (Wedi ei gyflawni)