Ethol Senedd fwy amrywiol
Cynhaliodd y Pwyllgor
ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd ymchwiliad i edrych yn fanwl ar
argymhellion y Panel
Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad sy’n ymwneud â mesurau
gwirfoddol a deddfwriaethol i annog ethol Senedd fwy amrywiol, drwy:
Edrych yn fanwl a ddylai fod yn ofynnol i bleidiau
gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth ddienw am amrywiaeth eu hymgeiswyr yn
etholiadau y Senedd, a’r goblygiadau ymarferol y byddai hyn yn arwain atynt;
Ystyried egwyddorion a goblygiadau ymarferol argymhelliad
y Panel y dylid integreiddio cwotâu rhywedd ymgeiswyr yn ddeddfwriaethol yn
system etholiadol y Senedd, ac unrhyw gamau gwirfoddol y gallai pleidiau eu
cymryd i gynyddu amrywiaeth eu hymgeiswyr etholiadol ar draws yr ystod lawn o
nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010;
Edrych yn fanwl ar faterion yn ymwneud ag argymhelliad y
Panel y dylid caniatáu i bobl sefyll mewn etholiad ar sail rhannu swyddi, gan
gynnwys y goblygiadau o ran atebolrwydd democrataidd ac unrhyw ystyriaethau
ymarferol y byddai angen mynd i’r afael â hwy.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Diwygio'r
Senedd: Y camau nesaf (PDF, 5MB) ym mis Medi 2020. Hefyd, cyhoeddodd grynodeb
o'i argymhellion (PDF, 113KB).
Tystiolaeth gan y cyhoedd
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad fel rhan o’i
ymchwiliad rhwng 11 Mawrth 2020 a 21 Mai 2020.
Gweithgaredd ymgysylltu
Cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad i randdeiliaid ar 10
Chwefror 2020. Cyhoeddwyd cofnod
o’r materion a drafodwyd (PDF, 131KB).
Tystiolaeth lafar
Sesiwn dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Comisiwn y Senedd Elin Jones AS, y Llywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Anna Daniel, Comisiwn y Senedd Matthew Richards, Comisiwn y Senedd |
|||
2. Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru Ruth Coombs, Pennaeth y Comisiwn yng Nghymru |
|||
3. Academyddion Yr Athro Rosie Campbell, Kings College London Dr Nicole Martin, The University of Manchester |
|||
4. Y Bwrdd Taliadau Dawn Primarolo, Cadeirydd y Bwrdd Taliadau Anna Daniel, Uwch-gynghorydd i’r Bwrdd Taliadau |
|||
5. Llywodraeth Cymru Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Democratiaeth
Llywodraeth Leol Elaina Chamberlain, Pennaeth Democratiaeth, Amrywiaeth
a Chydnabyddiaeth Ariannol |
|||
6. Rhannu swyddi ymysg cynrychiolwyr etholedig Yr Athro Sarah Childs, Birkbeck, Prifysgol Llundain Y Cynghorydd Mary Sherwood, Cyngor Dinas a Sir Abertawe Dr bob Watt |
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 08/01/2020
Dogfennau
- Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf - Medi 2020
- Diwygio’r Senedd: Y camau nesaf - Crynodeb o’r argymhellion - Medi 2020
- Cofnod o'r materion a drafodwyd yn y digwyddiad i randdeiliaid ar ethol Senedd fwy amrwyiol – Gorffennaf 2020
PDF 131 KB
- Gohebiaeth â Chomisiwn y Senedd
- Llythyr gan y Llywydd gyda gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 2 Rhagfyr 2019 – 17 Ionawr 2020
- Llythyr gan y Llywydd gyda gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 2 Rhagfyr 2019 – 27 Ionawr 2020
- Gohebiaeth â rhanddeiliaid eraill
- Llythyr gan Bennaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru â gwybodaeth ychwanegol yn dilyn y cyfarfod ar 13 Ionawr 2020 – 12 Chwefror 2020
- Tystiolaeth ysgrifenedig
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan y Cynghorydd Mary Sherwood (cyflwynwyd yn wreiddiol i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol fel rhan o'i ymchwiliad i amrywiaeth ym maes llywodraeth leol) [Saesneg yn unig]
- Crynodeb o dystiolaeth a ddarparwyd yn gyfrinachol gan y pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir yn y Senedd
PDF 115 KB
Ymgynghoriadau
- Ethol Senedd fwy amrywiol (Wedi ei gyflawni)