Gwaith dilynol ar y parodrwydd ar gyfer Brexit
Gwaith dilynol ar y parodrwydd ar gyfer Brexit
Y Cefndir
Elfen allweddol o
waith Y Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol oedd edrych ar fater Parodrwydd ar gyfer Brexit. Roedd y
gwaith hwn yn cwmpasu:
- ystyried sut yr oedd Llywodraeth Cymru yn
paratoi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar gyfer Brexit;
- archwilio goblygiadau Brexit i
borthladdoedd Cymru, gan gynnwys gwaith dilynol pellach yn ystod
hydref 2018;
- edrych ar y modd y byddai Brexit yn
effeithio ar sectorau
allweddol fel iechyd a meddyginiaethau, a bwyd a diod.
Gwnaeth y Pwyllgor
waith dilynol ar y parodrwydd ar gyfer Brexit.
Casglu
tystiolaeth
Clywodd y Pwyllgor
dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Prifysgolion Cymru a
Chonffederasiwn GIG Cymru yn ystod ei gyfarfod ar 20
Mai 2019, a chan Ffederasiwn Busnesau Bach
Cymru yn ystod ei gyfarfod ar 3
Mehefin 2019. Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth
ysgrifenedig gan Gyngres
Undebau Llafur Cymru (PDF, 111KB), a Bwyd
a Diod Cymru (PDF, 120KB).
Yn dilyn y sesiynau, ac ar ôl cael tystiolaeth ysgrifenedig, ar 19 Mehefin
2019, ysgrifennodd
(PDF, 194KB) y Cadeirydd at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ynglŷn â’r parodrwydd ar gyfer Brexit yng Nghymru. Ymatebodd
(PDF,302KB) y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar 18 Gorffennaf 2019.
Ar 4 Tachwedd 2019
cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth â chynrychiolwyr o’r sectorau
porthladdoedd, trafnidiaeth, bwyd a ffermio. Ar 11 Tachwedd 2019,
cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth â chynrychiolwyr o’r sector
gwasanaethau cyhoeddus.
Allbwn:
Yn dilyn y sesiynau
tystiolaeth a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2019, ysgrifennodd
(PDF, 355KB) y Cadeirydd at y Cwnsler
Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. Ymatebodd
(PDF, 501KB) y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ar 7 Ionawr 2020.
Ar 21 Tachwedd
2019 ysgrifennodd
(PDF, 252KB) y Cadeirydd at y Prif Weinidog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf
am waith Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer Brexit ers i’r Senedd gael ei
diddymu. Ymatebodd
(PDF, 268KB) y Prif Weinidog ar 6 Rhagfyr 2019.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/05/2019
Dogfennau
- Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit - 7 Ionawr 2020 PDF 501 KB
- Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at y Cadeirydd ynghylch paratoi ar gyfer Brexit - 6 Rhagfyr 2019 PDF 268 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ynghylch gwaith dilynol ar barodrwydd ar gyfer Brexit - 4 Rhagfyr 2019 PDF 355 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog ynghylch paratoi ar gyfer Brexit - 21 Tachwedd 2019 PDF 252 KB
- Gohebiaeth oddi wrth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ynghylch parodrwydd ar gyfer Brexit - 18 Gorffennaf 2019 PDF 304 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ynghylch y parodrwydd ar gyfer Brexit yng Nghymru - 19 Mehefin 2019 PDF 194 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Bwyd a Diod Cymru [Saesneg yn unig] PDF 120 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyngres Undebau Llafur Cymru [Saesneg yn unig] PDF 111 KB
- Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyngres Undebau Llafur Cymru (atodiad) [Saesneg yn unig] PDF 274 KB