Adfywio canol trefi: 5 mlynedd yn ddiweddarach
Roedd yr ymchwiliad cyntaf a gynhaliwyd gan
Bwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad yn ystyried y modd y
defnyddiodd Llywodraeth Cymru y dulliau oedd ar gael i'w chynorthwyo i adfywio
canol trefi yng Nghymru.
Ar ôl casglu
tystiolaeth yn hydref 2011, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad
ym mis Ionawr 2012, gan amlygu'r prif heriau sy'n wynebu canol trefi Cymru, a
gwneud 21 o argymhellion er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.
Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
yn cynnal ymchwiliad dilynol byr ar adfywio canol trefi. Cyn y cyfarfod
ffurfiol gyda'r Gweinidog Tai ac Adfywio, bydd y Pwyllgor yn cynnal sesiwn
anffurfiol gyda rhanddeiliaid i glywed eu barn ar y prif faterion sy'n wynebu
canol trefi yn y dyfodol.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/11/2017
Dogfennau