Ymchwiliad undydd i Restri Cyflawni Meddygol Cymru Gyfan

Ymchwiliad undydd i Restri Cyflawni Meddygol Cymru Gyfan

Inquiry5

Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i recriwtio meddygol, mynegwyd pryderon am y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol.

Yn ei gyfarfod ar 5 Gorffennaf 2017, cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad undydd i drafod y meysydd a ganlyn:

  • Y Rhestri Cyflawnwyr Meddygol ar wahân ar gyfer Cymru a Lloegr;
  • Pa mor hawdd yw hi i feddygon sy’n dychwelyd i Gymru gofrestru ar y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol;
  • Sut mae proses gofrestru’r Rhestr Cyflawnwyr Meddygol yn asesu cyfwerthedd yr hyfforddiant meddygol a wnaed y tu allan i’r DU.

Fel rhan o’r broses hon, byddwn yn cael tystiolaeth gan randdeiliaid perthnasol; yn ystyried tystiolaeth o fannau eraill yn y DU, ac yn cael tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut y mae’n mynd i’r afael â’r broblem.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/11/2017

Dogfennau