Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2016-17 a’r Amcangyfrif ar gyfer 2018-19

Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2016-17 a’r Amcangyfrif ar gyfer 2018-19

Rhaid i Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru ar y cyd osod eu hamcangyfrif o incwm a gwariant ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Cynulliad, fel sy’n ofynnol o dan Adran 20 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. O dan Reol Sefydlog 20.22, rhaid i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar eu hamcangyfrif, a gosod adroddiad gerbron y Cynulliad sy’n cynnwys yr amcangyfrif, gydag unrhyw addasiadau y mae’n eu hystyried yn briodol, ar ôl ymgynghori â Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Gosododd Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru eu hamcangyfrif ar gyfer 2018-19 (PDF, 1MB) gerbron y Cynulliad ym mis Hydref 2017.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar y Gwaith Craffu Blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru (PDF, 2MB) ym mis Tachwedd 2017.

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/10/2017

Dogfennau