Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)
Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o
fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Roedd Bil
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn fil y DU a gynlluniwyd i ddiddymu Deddf y Cymunedau
Ewropeaidd 1972, i newid cyfreithiau presennol yr UE yn gyfreithiau
domestig y DU ac i roi pwerau i weinidogion wneud is-ddeddfwriaeth.
Ar 12 Medi 2017, gosodd y Prif Weinidog, y Gwir
Anrhydeddus Carwyn Jones AC, gerbron y Cynulliad Cenedlaethol Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â’r Bil. Cyfeiriodd y Pwyllgor
Busnes at yr Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at y Pwyllgor Materion
Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol i’w ystyried ar 19 Medi 2017.
Cytunodd y Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol a’r Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ymgynghori ar y cyd ar y Bil
cyn llunio adroddiadau ar wahân:
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad interim ar Fil
yr UE (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 15 Rhagfyr 2017.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad ar Fil
yr UE (Ymadael): Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar 18 Rhagfyr 2017.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol atodol
Ar ddydd Gwener
27 Ebrill, gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF, 402KB) (Memorandwm rhif 2) ar y Bil
gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad
ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Rhif 2 Llywodraeth Cymru ar Fil yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael) (PDF 408KB)– 14 Mai 2018.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Materion Allanol a
Deddfwriaeth Ychwanegol ei adroddiad: Bil
yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) - Y cynnydd o ran cyflawni ein chwe amcan
(PDF, 586KB), ddydd Llun 14 Mai.
Cytunodd
Llywodraeth Cymru i roi cydsyniad i’r Bil yn dilyn cytundeb
(PDF, 125KB) rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddiwygio Bil yr UE
(Ymadael).
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Cynulliad;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2017
Dogfennau
- Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Memorandwm: Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Llywodraeth Cymru ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – 14 Mai 2018
PDF 408 KB
- Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): Y cynnydd o ran cyflawni ein chwe amcan -14 Mai 2018
PDF 586 KB
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – Ebrill 2018
PDF 402 KB
- Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Llywodraeth Cymru ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – 18 Rhagfyr 2017
PDF 636 KB
- Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael): adroddiad interim ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – 15 Rhagfyr 2017
PDF 573 KB
- Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) – 12 Medi 2017
PDF 77 KB