Ymchwiliad i Dechrau'n Deg: allgymorth
Inquiry5
Cynhaliodd y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad byr i raglen Dechrau'n Deg.
Mae Dechrau'n Deg yn buddsoddi yn y teuluoedd, y cymunedau a’r plant ifanc
mwyaf difreintiedig cyn gynted â phosibl.
Roedd yr
ymchwiliad hwn yn rhan o waith ehangach y Pwyllgor ar Y
1,000 Diwrnod Cyntaf.
Cylch Gorchwyl
Cynhaliodd y
Pwyllgor ymchwiliad byr i elfen allgymorth Dechrau'n Deg. Fe ystyriodd:
- Yr elfen o waith allgymorth o dan
Ddechrau’n Deg sy’n ei wneud yn ofynnol i awdurdodau lleol nodi’r plant
hynny sy’n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg a fyddai’n elwa ar
wasanaethau Dechrau’n Deg.
- I ba raddau y darperir digon o arian
Dechrau’n Deg i adlewyrchu’r elfen o waith allgymorth yng nghynlluniau
cyflenwi Dechrau’n Deg ac a yw capasiti’r gweithlu yn ddigon i gyflenwi’r
rhaglen a’i helfennau allgymorth.
- Y dystiolaeth am y canlyniadau i
rieni a phlant mewn ardaloedd Dechrau’n Deg o’u cymharu â’r canlyniadau i
rieni a phlant mewn ardaloedd sydd fwyaf tebyg o ran lefelau amddifadedd
ond nad ydynt yn ardaloedd Dechrau’n Deg.
Casglu
tystiolaeth
Tynnwyd tystiolaeth o ymatebion i'r Ymgynghoriad
1,000 Diwrnod Cyntaf.
Isod ceir tystiolaeth ychwanegol a ddaeth i law oedd yn
benodol i elfen allgymorth Dechrau'n Deg.
Adroddiad
Adroddiad
ar yr ymchwiliad i Dechrau'n Deg: allgymorth (PDF 2,181KB)
Ymateb
Llywodraeth Cymru (PDF 184KB)
Cafodd yr adroddiad ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 23
Mai 2018.
Darparwyd Llywodraeth Cymru ei diweddariad
cyntaf (PDF 295KB) fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i raglen Dechrau'n Deg:
allgymorth. Cafwyd rhagor o wybodaeth am Dechrau’n Deg hefyd gan Lywodraeth
Cymru fel rhan o ddarn o waith byr y Pwyllgor ar Addysg a
Gofal Plentyndod Cynnar (ECEC) yng Nghymru.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/06/2017
Dogfennau
- FS 01 Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 114 KB Gweld fel HTML (1) 45 KB
- FS 02 Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (Saesneg yn unig)
PDF 308 KB Gweld fel HTML (2) 43 KB
- FS 03 Aelodau o Rwydwaith Rheolwyr Dechrau'n Deg Cymru Gyfan (Saesneg yn unig)
PDF 583 KB Gweld fel HTML (3) 102 KB
- FS 04 Cyngor Sir Ceredigion (Saesneg yn unig)
PDF 428 KB Gweld fel HTML (4) 7 KB
- Diweddariad Llywodraeth Cymru – 29 Hydref 2018
PDF 295 KB
- Cyfyngedig