A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?
A yw plant a phobl ifanc anabl yn cael mynediad cyfartal at addysg a gofal plant?
YouTube-Here https://www.youtube.com/embed/vtvsOcrmC_I
MAE FERSIWN HAWDD EI DARLLEN AR GAEL (PDF 790KB)
Mae gwybodaeth am yr ymchwiliad hefyd ar gael yn fformat Microsoft Word.
Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad i
fynediad plant a phobl ifanc anabl at ofal plant ac addysg ac i ba raddau mae
darparwyr gofal plant, ysgolion ac awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau
o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Yn yr ymchwiliad hwn, hoffai’r Pwyllgor ddeall sut y gall plant a phobl
ifanc sy’n niwrowahanol, neu sydd ag anableddau corfforol, anableddau
synhwyraidd neu anableddau dysgu gael mynediad at bob agwedd ar addysg a gofal
plant.
Yn benodol:
- I ba raddau y mae plant a dysgwyr yn gallu cael mynediad at bob
rhan o ddarpariaeth gofal plant ac addysg ar hyn o bryd, gan gynnwys y
ffordd y caiff y cwricwlwm ei addysgu yn ogystal â gweithgareddau
allgyrsiol.
- I ba raddau y mae plant a phobl ifanc wedi’u heithrio o agweddau
penodol ar addysg neu ofal plant oherwydd eu hanabledd neu
niwrowahaniaeth.
- I ba raddau y mae teuluoedd a phlant yn teimlo bod gwahaniaethu
uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol neu wahaniaethu yn seiliedig ar
anabledd wedi effeithio arnynt.
- Effaith unrhyw ddiffyg mynediad neu fynediad cyfyngedig ar iechyd
meddwl a llesiant plentyn neu berson ifanc, yn ogystal ag ar ganlyniadau
addysgol.
- Y rhwystrau sy’n atal ysgolion a darparwyr gofal plant rhag cynnig
darpariaeth hygyrch.
- I ba raddau yr ymgynghorir â phlant anabl a phlant niwrowahanol a'u
teuluoedd am y dewisiadau addysg neu ofal plant sydd ar gael iddynt, ac i
ba raddau y maent yn cael eu hysbysu ynghylch y dewisiadau hynny.
- A yw rhieni plant anabl a phlant niwrowahanol, a'r plant eu hunain,
yn cael gwybodaeth a chymorth effeithiol gan awdurdodau lleol ac ysgolion.
- A oes gan blant anabl a niwrowahanol, a rhieni’r plant hyn, yr un
lefel o ddewis â phlant a rhieni eraill, a pha faterion sy'n effeithio ar
y dewis sydd ar gael o ran ysgolion neu ofal plant.
- I ba raddau y mae’r ddarpariaeth ar gyfer plant sydd â gwahanol
fathau o anableddau yn ddigonol.
Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud yng nghyd-destun Confensiwn y
Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar
Hawliau Pobl Anabl.
Sut rydym yn casglu ein tystiolaeth:
Tystiolaeth lafar
Rhwng mis Mai 2023 a mis Rhagfyr 2023, gwnaethon gynnal tair sesiwn ar
ddeg er mwyn casglu tystiolaeth lafar. Mae rhagor o fanylion am bob sesiwn ar
gael ar y tab cyfarfodydd ar frig y dudalen hon. Ar 27 Medi cynhaliwyd
digwyddiad i randdeiliaid, gyda’r naill ddigwyddiad wyneb yn wyneb (PDF187KB) a'r llall yn rhithwir (PDF 172KB).
Yn ganolog i'r ymchwiliad oedd profiad byw, ac fe gynhaliodd y Tîm
Ymgysylltu â Dinasyddion gyfweliadau teuluol gyda rhieni, gofalwyr ac, o bryd
i'w gilydd, gyda phlant. Cafodd dros 40 o deuluoedd eu cyfweld. Mae nodyn cryno (PDF 236KB) ar gael gan gynnwys fersiynau hawdd eu darllen (PDF 5MB), a fersiynau argraffadwy (PDF 18MB).
At hynny, sefydlwyd grŵp cynghori ar-lein i drafod y dystiolaeth a gafwyd. Cyfarfu dair gwaith
i drafod yr ymchwiliad hwn ac unwaith i fwydo i'r ymchwiliad ar ddiwygiadau
addysg, gan dynnu sylw at y materion sy'n ymwneud ag ADY.
Ymweliadau
Ymwelodd y Pwyllgor â phum ysgol ledled Cymru ac fe siaradodd yr Aelodau
â staff, disgyblion, rhieni a llywodraethwyr. Paratowyd nodyn ar gyfer pob
ymweliad: Nodyn Ysgol 1 (PDF 212KB), Nodyn Ysgol 2 (PDF 196KB), Nodyn Ysgol 3 (PDF 154KB), Nodyn Ysgol 4 (PDF 146KB) a Nodyn Ysgol 5 (PDF 183KB).
Mae'r Pwyllgor yn cyfarfod â rhieni, gofalwyr a sefydliadau yr ymwelwyd
â hwy, dyma restr lawn a nodiadau o'r sesiynau:
Sesiwn grŵp ffocws gyda Sparkle (PDF 224KB) – 15 Medi 2023
Sesiwn grŵp ffocws gyda Gofal Plant ASD Oakhill (PDF 188KB) – 15 Medi 2023
Ymweliad â Rainbows ASD (PDF 181KB) – 9 Hydref 2023
Gohebiaeth i Lywodraeth Cymru
Gwnaethom ysgrifennu at Weinidog yr Economi (PDF 202KB) yn tynnu sylw at yr effaith ar allu rhieni a gofalwyr i
weithio, ac at y Weinidog Newid Hinsawdd (PDF 211KB) yn tynnu sylw at y modd y mae diffyg teithio hygyrch,
cynhwysol a fforddiadwy i ddysgwyr yn creu rhwystrau i blant a phobl ifanc a'u
teuluoedd gael mynediad at addysg a gofal plant. Cafwyd ymatebion gan Weinidog yr Economi (PDF 194KB) a'r Weinidog Newid Hinsawdd (PDF 466KB). Yn dilyn y newid
o ran portffolios Ysgrifenyddion y Cabinet a Gweinidogion, fe wnaethom ysgrifennu (PDF 135KB) at Lywodraeth Cymru i ofyn iddi ddarparu unrhyw wybodaeth
bellach neu ddiweddariadau ar ein cyfer y credwch a fyddai'n ddefnyddiol i ni
ar gyfer llywio ein hadroddiad a'n casgliadau. Cafwyd ymateb (PDF 193KB).
Ymgynghoriad
Lansiodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth ysgrifenedig ar 11 Mai 2023.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 29 Medi 2023. Mae'r holl ymatebion wedi'u cyhoeddi.
Ymchwiliad i Ddiwygiadau Addysg
Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad dros dymor y Senedd, hefyd, i weithredu diwygiadau addysg, gan gynnwys edrych ar weithredu'r diwygiadau Anghenion Dysgu
Ychwanegol. At hynny, bydd tystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad hwn sy'n
ymwneud â'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei hystyried fel rhan o'r
ymchwiliad i ddiwygio addysg.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2023
Dogfennau
- Hawdd ei Ddeall fynediad cyfartal i addysg a gofal plant PDF 790 KB
- Nodyn Ysgol 1 - 29 Mehefin 2023 PDF 154 KB
- Nodyn Ysgol 2 - 29 Mehefin 2023 PDF 196 KB
- Nodyn Ysgol 3 - 29 Mehefin 2023 PDF 154 KB
- Nodyn Ysgol 4 - 28 Medi 2023 PDF 146 KB
- Nodyn Ysgol 5 - 04 Rhagfyr 2023 PDF 183 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol - 26 Mehefin 2023 PDF 218 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gomisiynydd y Gymraeg - 26 Mehefin 2023 PDF 270 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y Grŵp Trawsbleidiol ar Faterion Pobl Fyddar - 6 Mehefin 2023 PDF 170 KB
- Cyfweliadau teuluol - Canfyddiadaur gwaith ymgysylltu PDF 236 KB
- Hawdd ei darllen - Cyfweliadau teuluol - Canfyddiadaur gwaith ymgysylltu (sgrin) PDF 5 MB
- Hawdd ei darllen - Cyfweliadau teuluol - Canfyddiadaur gwaith ymgysylltu (argraffu) PDF 18 MB
Ymgynghoriadau