Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
Bil gan
Lywodraeth Cymru, a gyflwynwyd gan Julie
James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni. Anfonodd y Pwyllgor
Busnes y Bil at Bwyllgor y Bil
Atebolrwydd Aelodau ar gyfer craffu arno yng Nghyfnod 1 a Chyfnod 2.
Gwybodaeth am
y Bil
Mae’r Bil yn
cynnwys darpariaeth ar gyfer y canlynol:
>>>>
>>>Gwella atebolrwydd Aelodau o’r Senedd i’r
etholwyr, darparu mecanwaith i alw Aelod etholedig yn ôl, a’i ddiswyddo o’i
swydd yn ystod ei dymor ar sail ewyllys a fynegir gan bleidleiswyr yn yr
etholaeth berthnasol.
>>>Cryfhau proses safonau'r Senedd fel y'i hystyriwyd gan y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad, gan gynnwys:
>*>*>*
***Sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad gorfodol;
***Cyflwyno elfen o annibyniaeth ac arbenigedd i'r Pwyllgor hwnnw drwy
benodi aelodau lleyg; a
***Rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Comisiynydd Safonau ystyried yn
rhagweithiol bryderon ynghylch ymddygiad Aelodau o'r Senedd.
<*<*<*
>>>Yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth
sy'n gwahardd gwneud datganiadau ffeithiol ffug neu eu cyhoeddi. Mae hyn mewn
ymateb i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ddichell
fwriadol.
<<<
Mae rhagor o
fanylion am y Bil i’w gweld yn y Memorandwm
Esboniadol cysylltiedig.
Ymchwil y Senedd,
Erthygl - Bil
newydd yn ceisio cryfhau atebolrwydd Aelodau a mynd i'r afael â chamwybodaeth
mewn etholiadau.
Cyfnod
Presennol
BillStage3
Mae’r Bil yng
Nghyfnod 3 ar hyn o bryd. Mae esboniad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd ar
gael yn y Canllaw
i Gyfnodau Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
Cofnod o daith
y Bil drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl a
ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy’r Senedd.
¬¬¬Cyfnod 3
(Presennol)
Dechreuodd Cyfnod
3 ar 13 Chwefror 2026.
Bydd trafodion
Cyfnod 3 yn digwydd yn y Cyfarfod Llawn ar ddydd
Mawrth, 17 Mawrth 2026. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno gwelliannau yw pump
diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod pan fyddant yn cael eu hystyried. Caiff
manylion y gwelliannau a gyflwynwyd eu cyhoeddi yma.
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 6 Mawrth 2026 (PDF 105KB)
zzz
¬¬¬Cyfnod 2 (14
Ionawr 2026 – 12 Chwefror 2026)
Dechreuodd Cyfnod
2 ar 14 Ionawr 2026.
Cynhaliwyd
trafodion Cyfnod 2 mewn cyfarfod o Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau ar 12 Chwefror 2026.
Ar 20 Ionawr 2026,
cytunodd Pwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, o dan Reol Sefydlog 26C.27, ar y
drefn a ganlyn ar gyfer trafodion Cyfnod 2: adran 2 i adran 21, Atodlen 1 ac
Atodlen 2, adran 22 i adran 25, adran 1, a’r teitl hir.
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 3 Chwefror 2026 (PDF 105KB)
Llywodraeth
Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 3 Chwefror 2026 (PDF 216KB)
Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 5 Chwefror 2026 (PDF 289KB)
Rhestr
o Welliannau wedi'u Didoli - 12 Chwefror 2026 (PDF 358KB)
Grwpio
Gwelliannau – 12 Chwefror 2026 (PDF 94KB)
Bil
Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), fel y’i diwygiwyd yng
Nghyfnod 2 (Nodir diwygiadau i'r Bil ers y fersiwn flaenorol gyda llinell
ar yr ochr chwith) (PDF 332KB).
Newidiadau
argraffu ir Bil fel yi diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF 69KB)
zzz
¬¬¬Penderfyniad
Ariannol
Yn unol â Rheol
Sefydlog 26.68, nododd y Llywydd fod penderfyniad ariannol yn ofynnol ar gyfer
y Bil. Mae rhagor o wybodaeth am benderfyniadau ariannol ar gael yn adran 3 o’r
Canllaw
i'r cyfnodau craffu ar gyfer Biliau Cyhoeddus.
Roedd dadl wedi’i
hamserlennu i’w chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar gynnig i gymeradwyo penderfyniad
ariannol mewn perthynas â’r Bil, a hynny ar 13 Ionawr 2026.
Cyflwynwyd y cynnig ond ni chafodd ei gynnig gan y Cwnsler Cyffredinol yn ystod
trafodion y Cyfarfod Llawn.
Cytunwyd ar
Benderfyniad Ariannol mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac
Etholiadau) yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Chwefror 2026.
Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 ar 12 Chwefror 2026.
zzz
¬¬¬Cyfnod 1 (21
Hydref 2025 – 13 Ionawr 2026)
Cynhaliwyd dadl
yn y Cyfarfod Llawn ar
gynnig i gymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil ar 13 Ionawr 2026. Derbyniwyd
y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.
Trafododd y
Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau ei ddull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 ar 21
Hydref 2025.
Ystyriodd y Pwyllgor Bil Atebolrwydd Aelodau y
Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
|
Dyddiad ac
Agenda |
Diben y
cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Trafod yr
adroddiad drafft (Preifat) |
Preifat |
Preifat |
|
|
Trafod yr
adroddiad drafft (Preifat) |
Preifat |
Preifat |
|
|
Trafod y
materion allweddol (Preifat) |
Preifat |
Preifat |
|
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (Cyhoeddus) |
|||
|
Sesiynau
tystiolaeth lafar: Alberto Costa AS, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin a Dr David Stirling, Aelod
Lleyg o Bwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin (Cyhoeddus) Sesiynau
tystiolaeth lafar: Alexander Greenwood, Cymdeithas y Bar Troseddol a
Jonathan Elystan Rees KC, Cymdeithas y Bar Troseddol (Cyhoeddus) |
|||
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda'r Comisiynydd Seneddol dros Safonau, Tŷ'r Cyffredin a Chomisiynydd Safonau’r Ynysoedd Cyfan (Cyhoeddus) |
|||
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda’r Comisiwn Etholiadol, y Bwrdd Rheoli Etholiadol a
Chymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (Cyhoeddus) |
|||
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad (Cyhoeddus) Sesiwn
dystiolaeth gyda’r Comisiynydd Safonau (Cyhoeddus) |
|||
|
Cadarnhad ar y
dull ar gyfer craffu yng Nghyfnod 1 (Cyhoeddus) Cynllunio
gwaith ar gyfer y dyfodol (Preifat) |
|||
|
Cylch gorchwyl
y Pwyllgor (Cyhoeddus) Ystyried y
ffordd o fynd ati I wneud gwaith craffu Cyfnod 1 (Preifat) Sesiwn friffio
dechnegol (Preifat) |
Gosododd Pwyllgor
y Bil Atebolrwydd Aelodau ei adroddiad
ar 23 Rhagfyr 2025 (PDF 3MB). Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Ionawr 2026 (PDF 260KB).
Ystyriodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
|
Dyddiad ac
Agenda |
Diben y
cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni |
Gosododd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
ar 23 Rhagfyr 2025 (PDF 2.4MB).
Ymatebodd
(PDF 244KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Ionawr 2026.
Ysgrifennodd y
Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni a’r Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad eto ar 6
Chwefror 2026 (PDF 184KB).
Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau
a ganlyn:
|
Dyddiad ac
Agenda |
Diben y
cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
Sesiwn
dystiolaeth gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni |
Gosododd y
Pwyllgor Cyllid ei adroddiad
ar 19 Rhagfyr 2025 (PDF 398KB). Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 9 Ionawr 2025 (PDF 216KB). Ymatebodd
Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor ar 21 Ionawr 2026 (PDF 157KB).
zzz
¬¬¬Cyflwyno’r Bil
(3 Tachwedd 2025)
>>>>
>>>Bil Senedd
Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), fel y’i cyflwynwyd (PDF 336KB)
>>>Memorandwm
Esboniadol (PDF 1.9MB)
>>>Datganiad
y Llywydd: 3 Tachwedd 2025 (PDF 177KB)
>>>Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil – 3 Tachwedd 2025
(PDF 74KB)
>>>Datganiad
o Fwriad Polisi – 3 Tachwedd 2025 (PDF 255KB)
<<<
zzz
Gwybodaeth
gyswllt:
Clerc: Sarah
Sargent
Ffôn: 0300 200
6565
Cyfeiriad
post:
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
E-bost: SeneddBAA@senedd.cymru
Math o fusnes: Bil
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/11/2025
Dogfennau
- Hide the documents
- Datganiad o Fwriad Polisi - 3 Tachwedd 2025
PDF 423 KB - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) - 9 Ionawr 2026
PDF 260 KB - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni at y Pwyllgor DCC, 9 Ionawr 2026
PDF 244 KB - Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 3 Chwefror 2026
PDF 105 KB - Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 3 Chwefror 2026
PDF 216 KB - Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 5 Chwefror 2026
PDF 280 KB - Rhestr o Welliannau wedi'u Didoli - 12 Chwefror 2026
PDF 358 KB - Grwpio Gwelliannau – 12 Chwefror 2026
PDF 94 KB - Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau), fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2
PDF 332 KB - Newidiadau argraffu ir Bil fel yi diwygiwyd yng Nghyfnod 2
PDF 69 KB - Hysbysiad ynghylch Gwelliannau – 6 Mawrth 2026
PDF 105 KB
Ymgynghoriadau
- Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) (Wedi ei gyflawni)