Penderfyniadau
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
18/07/2013 - P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig: Trafod y sesiwn dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i;
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a fydd adolygiad o Daliadau Uniongyrchol;
· ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn tynnu sylwa at y materion cyn cynnal gwaith craffu pellach ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru);
· casglu rhagor o astudiaethau achos am y mater dan sylw; ac
· ystyried a ddylid cymryd rhagor o dystiolaeth yn ystod tymor yr hydref.