Manylion y penderfyniad
P-04-452 Hawliau Cyfartal i Bobl Ifanc Tiwb-borthedig: Trafod y sesiwn dystiolaeth
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gael i sicrhau bod yr offer a’r gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc tiwb-borthedig ar gael iddynt.
Er enghraifft, ar hyn o bryd mae hawliau cyfartal ar gyfer pobl ifanc tiwb-borthedig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn syrthio rhwng 2 gategori o angen sydd wedi’u diffinio. Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn dweud oherwydd nad ydynt yn blant sydd angen Gofal Iechyd Parhaus - ‘dim ond’ plant tiwb-borthedig ydynt - ni all ariannu’r offer a’r gwasanaethau hanfodol yr ydym eu hangen. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Caerffili hefyd yn dweud na allant helpu oherwydd bod gan y plant hyn anghenion iechyd sylweddol. Mae’r diffiniadau hyn yn cau Pobl Ifanc Tiwb-borthedig allan ac felly’n gwahaniaethu yn eu herbyn, ac rydym yn mynnu bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i’r arferion hyn yng Nghaerffili. Er nad yw’n pobl ifanc yn gymwys i gael cymorth naill ai gan y gwasanaethau iechyd ym Mwrdeistref Caerffili neu’r gwasanaethau cymdeithasol, mae gennym berson ifanc sydd angen gofal bob awr o’r dydd - yr un peth â phlentyn newydd-anedig - sydd yn aml ag anableddau oherwydd salwch sy’n peryglu bywyd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae angen ‘label’ ar ein pobl ifanc er mwyn iddynt allu gael mynediad awtomatig at gyllid ar gyfer offer a gwasanaethau hanfodol. Ar hyn o bryd, mae dadlau cyllidol rhwng adrannau’n digwydd yn dilyn cais am unrhyw beth ar gyfer Person Ifanc Tiwb-borthedig, a ni ddylai Rhieni/Gofalwyr fod yn rhan o’r dadleuon hyn. Y cyfan sydd ei angen arnom yw help i’n pobl ifanc cyn gynted â phosibl. Gofynnwn fod ateb cyflym yn cael ei ganfod i’n Pobl Ifanc ac er lles eu Rhieni/Gofalwyr, a bod yr ateb hwnnw’n un synhwyrol sy’n berthnasol yn yr hir dymor.
Prif ddeisebydd: Dr Tymandra Blewett-Silcock
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Ionawr 2013
Nifer y llofnodion: 142
Penderfyniadau:
Trafododd yr Aelodau y sesiwn dystiolaeth a chytunwyd i;
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn a fydd adolygiad o Daliadau Uniongyrchol;
· ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn tynnu sylwa at y materion cyn cynnal gwaith craffu pellach ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru);
· casglu rhagor o astudiaethau achos am y mater dan sylw; ac
· ystyried a ddylid cymryd rhagor o dystiolaeth yn ystod tymor yr hydref.
Dyddiad cyhoeddi: 18/07/2013
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad