Penderfyniadau

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

30/01/2013 - Supplementary Legislative Consent Motion - Enterprise and Regulatory Reform Bill - Abolition of the Agricultural Wages Board for England and Wales

Dechreuodd yr eitem am 17.44

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5138 Alun Davies (Blaenau Gwent)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â diddymu Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

33

51

Gwrthodwyd y cynnig.


30/01/2013 - Supplementary Legislative Consent Motion - Enterprise and Regulatory Reform Bill - Provisions to require suppliers of goods and services to provide electronic data to customers

Dechreuodd yr eitem am 17.40

NDM5139 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


21/11/2012 - Legislative Consent Memorandum on the Enterprise and Regulatory Reform Bill relating powers to include sunset and review provisions in subordinate legislation

Dechreuodd yr eitem am 16.09

NNDM5061 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â phŵer i Weinidogion Cymru gynnwys cymalau machlud ac adolygu mewn is-ddeddfwriaeth, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Hydref 2012 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


07/11/2012 - Legislative Consent Motion on the Enterprise and Regulatory Reform Bill relating to the Green Investment Bank

Dechreuodd yr eitem am 15:47

NDM5040 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y ”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 

 


26/09/2012 - Legislative Consent Motion on the Enterprise and Regulatory Reform Bill

Dechreuodd yr eitem am 16:57

 

NDM5012 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy’n ymwneud â diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.