Manylion y penderfyniad
Supplementary Legislative Consent Motion - Enterprise and Regulatory Reform Bill - Provisions to require suppliers of goods and services to provide electronic data to customers
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae Senedd y DU ar hyn o bryd yn ystyried Bil Llywodraeth y DU, sef Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ('y Bil').
Bwriad adrannau o'r Bil hwn yw deddfu mewn meysydd cymhwysedd sydd wedi eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'n ofynnol, yn ôl confensiwn, bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ('y Cynulliad') yn ystyried cydsynio â hyn. Mae'r Cynulliad yn gwneud hyn drwy ystyried cynnig cydsyniadau deddfwriaethol a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am gynigion cydsyniad deddfwriaethol i'w chael yn hysbysiad hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6-Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol.
Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol cyntaf wedi ei ddrafftio fel a ganlyn:
"Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai
Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio, fel y'i
cyflwynwyd yn Nhŷ'r Cyffredin ar 23 Mai 2012 sy'n ymwneud â
diwygiadau i Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru."
Gwybodaeth ychwanegol
-
Mae'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol gyntaf,
a goswyd ar 12 Mehefin 2012, ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-docs.htm?act=dis&id=235055&ds=6/2012
-
Mae'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio ar gael ar
wefan Senedd y DU: http://services.parliament.uk/bills/2012-13/enterpriseandregulatoryreform.html
-
Mae Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 ar gael ar wefan legislation.gov.uk: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/1991/56/contents
-
Hysbysiad hwylus y Gwasanaeth Ymchwil Cyfres y Cyfansoddiad: 6 Cynigion Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gael yn: http://www.cynulliadcymru.org/qg07-0006.pdf
Gorffennaf
2012
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.40
NDM5139 Edwina Hart (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Menter a
Diwygio Rheoleiddio ynghylch y gofyniad bod cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau yn
darparu data cwsmeriaid i’r graddau y mae hyn yn rhan o gymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ionawr 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 30/01/2013
Dyddiad y penderfyniad: 29/01/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad