Penderfyniadau

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

19/07/2012 - Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

Dechreuodd yr eitem am 15.02

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5038 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

 

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

0

13

57

Derbyniwyd y cynnig.

 

 


05/07/2012 - Motion under section 19(5)(a) of the Public Bodies Act 2011

Dechreuodd yr eitem am 15.05

 

NNDM5028

Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

Russell George (Sir Drefaldwyn)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag adran 19(5)(a) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011:

 

Yn cytuno bod y weithdrefn a nodir yn adrannau 19(6) i 19(9) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 yn berthnasol i Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012.

 

Gellir gweld Deddf Cyrff Cyhoeddus 2011 drwy fynd i:

http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2011/24/contents (Saesneg yn unig)

 

Gosodwyd Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 gerbron y Cynulliad ar 30 Mai 2012.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

41

52

Gwrthodwyd y cynnig.