Manylion y penderfyniad
Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae'r Gorchymyn drafft Corff Adnoddau Naturiol ar gyfer Cymru (Sefydlu) 2012 wedi osodwyd gerbron y Cynulliad ar 30 Mai 2012.
Mae'r Gorchymyn drafft yn ceisio sefydlu Corff Adnoddau Naturiol ar gyfer Cymru.
Mae'r Gorchymyn drafft wedi cael ei ddwyn ymlaen o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011
Gallwch ddod o hyd i fanylion am y cyfarfodydd lle y Gorchymyn drafft hwn wedi cael ei hystyried o dan y tab 'Cyfarfodydd' uchod.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5038 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Mai 2012.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
44 |
0 |
13 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 19/07/2012
Dyddiad y penderfyniad: 18/07/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad