Penderfyniadau
Cyllideb Llywodraeth Cymru 2013-14
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
05/12/2012 - Debate on the Annual Budget
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5109 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar
27 Tachwedd 2012.
Troednodyn:
Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
1. Y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf
Llywodraeth Cymru;
2. Yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru
am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3. Cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;
4. Cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru
gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r
Gronfa yn y cynnig; a
5. Cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o
dan adran 125(1)(c).
Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i’r Aelodau:
·
Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y
Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Flynyddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
7 |
18 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig.
23/10/2012 - Craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2013/14
03/10/2012 - Statement by the Minister for Finance and Leader of the House: Draft Budget 2013-14
Dechreuodd yr eitem am 14:38