Manylion y penderfyniad
Debate on the Annual Budget
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Edrychodd y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb
Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol.
Gweithiodd hefyd
gyda pwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau bod cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol
penodol wedi cael eu hystyried yn fanwl. Cynhaliwyd y pwyllgor sesiynau i
ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn archwilio i’r
agweddau ar y gyllideb daeth o dan eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn adrodd
yn ôl i ni gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5109 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.25:
Yn cymeradwyo'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar
27 Tachwedd 2012.
Troednodyn:
Yn unol â darpariaethau perthnasol Deddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol
Sefydlog 20.28, mae'r Gyllideb Flynyddol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:
1. Y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf
Llywodraeth Cymru;
2. Yr adnoddau y cytunodd y Trysorlys arnynt ar gyfer cyllideb bloc Cymru
am y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;
3. Cysoni rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd i gyllideb bloc Cymru gan y
Trysorlys a'r adnoddau i'w hawdurdodi i'w defnyddio yn y cynnig;
4. Cysoni rhwng yr amcangyfrif o'r symiau i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru
gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau i'w hawdurdodi ar gyfer talu allan o'r
Gronfa yn y cynnig; a
5. Cysoni rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r
Ddeddf a'r symiau i’w hawdurdodi ar gyfer talu allan o Gronfa Gyfunol Cymru o
dan adran 125(1)(c).
Darparwyd y wybodaeth atodol ganlynol i’r Aelodau:
·
Nodyn Esboniadol ar y newidiadau rhwng cynigion y
Gyllideb Ddrafft a’r Gyllideb Flynyddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
7 |
18 |
50 |
Derbyniwyd y
cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 05/12/2012
Dyddiad y penderfyniad: 04/12/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/12/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad