Penderfyniadau

Ymchwiliad un-dydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

06/12/2012 - Debate on the Health and Social Care Committee’s report on Prevention of VTE in hospitalised patients

Dechreuodd yr eitem am 15:43

 

NDM5116 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref  2012.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Tachwedd 2012.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.