Manylion y penderfyniad
Debate on the Health and Social Care Committee’s report on Prevention of VTE in hospitalised patients
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor
Cynhaliodd y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd
gwythiennol (VTE) ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru yn ystod
gwanwyn/haf 2012.
Diben y sesiwn oedd archwilio sut y caiff canllawiau’r
Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) a’r adnodd
asesu risg, sef 1000 o Fywydau a Mwy, eu defnyddio ledled Cymru a pha mor
ddigonol ac effeithiol ydynt o ran atal thrombo-emboledd gwythiennol (VTE)
ymhlith cleifion mewn ysbytai. Trafododd y Pwyllgor hefyd ddefnydd ac
effeithiolrwydd proffylacsis ffarmacolegol a mecanyddol ar gyfer VTE ac a oedd
unrhyw broblemau penodol o ran rhoi mesurau ar waith i atal VTE.
Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y pwnc hwn.
Adroddiad y Pwyllgor
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei
adroddiad
(PDF, 498KB) ym mis Hydref 2012. Ymatebodd
(PDF, 205KB) Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2012. Cynhaliwyd y ddadl yn y
Cyfarfod Llawn ar 5 Rhagfyr 2012.
Gwaith dilynol y Pwyllgor
Yn haf 2014, cytunodd y
Pwyllgor i ofyn am adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol ar y cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu argymhellion y
Pwyllgor. Ymatebodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Medi 2014.
Mae’r diweddariad
gan y Gweinidog (PDF, 833KB) yn amlinellu bod y cynnydd mewn perthynas â
gweithredu argymhellion y Pwyllgor yn unol â’r hyn a ddisgwylir o ystyried yr
amserlen dan sylw. Yn sgil yr ymateb hwn, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i beidio
ag ymgymryd ag unrhyw waith pellach ar y pwnc hwn ar hyn o bryd.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:43
NDM5116 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Tachwedd 2012.
Derbyniwyd y cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 06/12/2012
Dyddiad y penderfyniad: 05/12/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/12/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad