Penderfyniadau

P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

03/05/2012 - P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru

Datgannodd y Cadeirydd fuddiant yn y pwnc gan ei fod yn gynghorydd lleol yn Nhalgarth.

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

Ysgrifennu, unwaith eto, at Cadw i awgrymu iddo weithredu camau dros dro i ddiogelu adeiladau o’r fath nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio;

Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i wneud cais bod camau diogelu dros dro yn cael eu gweithredu nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio;

Ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bwysleisio’r ffaith bod y safle mewn ardal gadwraeth ac i ofyn bod unrhyw geisiadau cynllunio a gaiff eu derbyn yn diogelu adeiladau nodedig yn yr ardal gadwraeth.