Manylion y penderfyniad
P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i restru, neu i ddiogelu mewn ffordd arall, yr adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru. A hwythau heb eu rhestru, ond wediu lleoli yn yr Ardal Gadwraeth, maent yn rhan werthfawr o dreftadaeth bensaernïol a chymdeithasol Talgarth.
Prif ddeisebydd:
John Tushingham
Nifer y deisebwyr:
206
Penderfyniadau:
Datgannodd y Cadeirydd fuddiant yn y pwnc gan ei fod yn gynghorydd lleol yn Nhalgarth.
Cytunodd y Pwyllgor i:
Ysgrifennu, unwaith eto, at Cadw i awgrymu iddo weithredu camau dros dro i ddiogelu adeiladau o’r fath nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio;
Ysgrifennu at y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth i wneud cais bod camau diogelu dros dro yn cael eu gweithredu nes i’r Bil Treftadaeth gael ei basio;
Ysgrifennu at Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i bwysleisio’r ffaith bod y safle mewn ardal gadwraeth ac i ofyn bod unrhyw geisiadau cynllunio a gaiff eu derbyn yn diogelu adeiladau nodedig yn yr ardal gadwraeth.
Dyddiad cyhoeddi: 03/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 01/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 01/05/2012 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: