Penderfyniadau
P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Mon
Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.
18/07/2013 - P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth
ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn tynnu
sylw at yr anawsterau y mae cymunedau lleol yn eu hwynebu
o ran diogelu tir comin, ac yn gofyn
pa gefnogaeth y gellir ei roi i’r
cymunedau hynny.
Yn dibynnu ar y rhaglen
ddigwyddiadau, cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori ymweliad â Llangoed fel rhan o’r
gweithgareddau allgymorth yn ystod tymor
yr hydref.