Manylion y penderfyniad

P-04-343 Atal dinistrio mwynderau ar dir comin - Ynys Môn

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Ymchwiliad ar droed

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Geiriad y ddeiseb:

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i chwilio am ffyrdd i atal dinistrio mwynderau ar dir comin, gan gynnwys tir comin y Marian yn Llangoed, Ynys Môn.

 

Prif ddeisebydd:

JE Futter

 

Nifer y deisebwyr:

156

 

 

 

 

Penderfyniadau:

Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae cymunedau lleol yn eu hwynebu o ran diogelu tir comin, ac yn gofyn pa gefnogaeth y gellir ei roi i’r cymunedau hynny.

 

Yn dibynnu ar y rhaglen ddigwyddiadau, cytunodd y Pwyllgor i ymgorffori ymweliad â Llangoed fel rhan o’r gweithgareddau allgymorth yn ystod tymor yr hydref.

 

Dyddiad cyhoeddi: 18/07/2013

Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/07/2013 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad

Dogfennau Cefnogol: