Penderfyniadau

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Lleoliaeth

Mae'r dudalen hon yn dangos y penderfyniadau a wnaed gan unrhyw bwyllgorau sy'n trafod y mater hwn. Gallai'r penderfyniadau hyn gynnwys cytuno ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer ymchwiliad neu benderfyniad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater dan sylw.

05/10/2011 - Supplementary Legislative Consent Motion on the Localism Bill

NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722 ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt Werth Cymunedol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


13/07/2011 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Y Bil Lleoliaeth

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 


15/06/2011 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: Bil Senedd y DU ynghylch Lleoliaeth

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.