Manylion y penderfyniad
Supplementary Legislative Consent Motion on the Localism Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynnig Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol:
“Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno, yn ogystal â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642 ac NNDM4722, y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau pellach hynny s gynigir yn y Bil Lleoliaeth mewn perthynas â Chynlluniau Blaendaliadau Tenantiaid a thrwyddedu HMOs, i'r graddau y maent o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”
Cefndir
Mae Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol (NNDM4642 ac NNDM4722) yn ymwneud â'r Bil Lleoliaeth wedi'i gyflwyno eisoes yn y Cynulliad Cenedlaethol, a rhoddodd y Cynulliad Cenedlaethol ei gydsyniad i ddarpariaethau perthnasol y Bil, i'r graddau eu bod yn dod o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol, gael eu hystyried gan y Senedd.
Mae’r Bil Lleoliaeth yn Bil Senedd y DU. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Senedd y DU
Penderfyniad:
NDM4808 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog
29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ogystal
â'r darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynigion NNDM4642, NNDM4722
ac NNDM4785, y darpariaethau ychwanegol
hynny a gyflwynwyd i’r Bil Lleoliaeth
ynghylch Rhagdybiaethau Cynllunio Gorchmynion Prynu Gorfodol, Sail 16 Atodlen 2 Deddf Tai 1985 ac Asedau ag iddynt
Werth Cymunedol, i'r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2011
Dyddiad y penderfyniad: 04/10/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad